Ailwampio targedau Unedau Brys ac Ambiwlansys
- Cyhoeddwyd
Fe fydd y ffordd y mae perfformiad y gwasanaeth ambiwlans ac unedau brys yng Nghymru yn cael eu monitro a'u mesur yn newid yn sylweddol.
Mae'r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi y bydd targedau newydd yn cael eu datblygu fydd, yn ôl y Gweinidog, yn rhoi gwell dealltwriaeth i gleifion am safon y gofal y gellir ei ddisgwyl.
Mae swyddogion yn dadlau bod y targedau presennol - sy'n mesur pa mor gyflym mae ambiwlans yn ymateb i alwad brys neu'r amser mae'n rhaid i glaf aros mewn Adrannau Brys - yn "rhy gyfyng" a ddim yn adlewyrchu'r driniaeth y mae'r claf yn ei dderbyn.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn mynnu na fydd yr hen dargedau yn cael eu diddymu'n syth ac y byddan nhw'n parhau i gael eu mesur yn gyfochr a'r mesuryddion newydd "am y tro".
Mae'r mesurau ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans a'r Adrannau Gofal Brys a fydd yn cael eu treialu fis nesaf, yn canolbwyntio ar dair prif ardal driniaeth - gofal i bobl sydd wedi cael trawiad ar y galon, strôc neu wedi torri clun.
Maen nhw'n debygol o asesu pa mor llwyddiannus mae criwiau ambiwlans wrth ganfod y cyflyrau yma.
Mewn rhai achosion, os yw symptomau'n cael eu darganfod yn gynnar, yna fe all cleifion gael eu cyfeirio'n uniongyrchol i gael llawdriniaeth neu adran arbenigol arall o'r ysbyty yn hytrach na chael ei gludo i'r Uned frys.
Y gobaith ydi y bydd yn rhyddhau'r pwysau ar yr Adrannau Brys a lleihau'r aros am ambiwlansys.
Maen nhw hefyd yn cynnwys mesuryddion o faint o gleifion fydd yn cael cymorth gan dimau arbenigol a chyffuriau i chwalu ceuladau o fewn 60 munud.
Mae'n debygol y byddan nhw hefyd yn cynnwys mesur pa mor hir y mae'n rhaid i glaf aros rhwng galw 999 a chael sgan, cael ei weld gan ymgynghorydd neu ddechrau triniaeth.
Ar hyn o bryd, mae targedau ar wahân i fesur am amser ymateb ambiwlansys a'r amser mae claf yn ei dreulio rhwng cyrraedd Uned Frys a gadael neu gael ei drosglwyddo i adran arall yn yr ysbyty.
Fe fydd swyddogion yn edrych hefyd a oes angen gosod targedau amser gwahanol yn ddibynnol ar ba mor ddifrifol y mae cyflwr y claf.
Ar hyn o bryd, mae'r cleifion i gyd yn yr Adrannau Gofal Brys yn cael eu mesur yn erbyn y targed o 4 awr, waeth beth fo'u cyflwr.
Roedd Dr Grant Robinson, Arweinydd Clinigol Llywodraeth Cymru ar ofal heb ei drefnu, wedi helpu i greu'r mesuryddion newydd.
"Y tri maes rydym yn edrych ar dreialu'r mesurau hyn ydi pobl gyda thrawiad ar y galon, strôc neu sydd wedi torri'u clun. Ar gyfer trawiad ar y galon, er enghraifft, rydym yn gwybod bod yr amser mae'n ei gymryd i gael y driniaeth gywir yn bwysig ac efallai mai cyffuriau i chwalu clot neu, yn gynyddol, triniaeth gyda balŵn i chwythu'r wythïen fawr dan sylw, fyddai hynny.
"Mae ynglŷn â rhoi'r gofal cywir i gleifion, yn y lle cywir ar yr amser cywir."
Ychwanegodd Richard Lee, Pennaeth Gwasanaeth Clinigol gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru:
"Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yn 2014 yn llawer mwy soffistigedig yn glinigol. Rydym yn darparu nifer o driniaethau ar leoliad neu ar y ffordd i ysbyty.
"Mae ynglŷn â chydnabod bod rhai triniaethau sydd wedi bod ar gael yn Adran Frys ysbytai yn unig yn gallu cael eu darparu gennym ni a pha mor effeithiol yr ydym ni wrth ddarparu hynny ar leoliad neu ar y ffordd i'r ysbyty."
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd sut yn union y bydd y mesuryddion newydd yn cael eu mesur, ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y wybodaeth ar gael yn gyhoeddus, er enghraifft, ar y wefan a lansiwyd y llynedd, dolen allanol, sy'n rhestru amrywiaeth o fesuryddion perfformiad y GIG.
Ambiwlansys yn methu'u targedau
Mae'r mesuryddion newydd yn cael eu cyhoeddi ar ddiwrnod y bydd yr amseroedd ymateb ambiwlansys diweddaraf yn cael eu cyhoeddi.
Targed Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yw i ymateb i 65% o alwadau sy'n beryglus i fywyd claf o fewn 8 munud.
Mae'u ffigyrau diweddaraf ar gyfer Ionawr yn dangos mai 57.8% yn unig a ymatebodd o fewn yr amser hwn.
Mae'n darged sydd wedi'i gyrraedd ond ar un achlysur ers Haf 2011, ac mae perfformiad y gwasanaeth ambiwlans wedi llusgo y tu ôl i Loegr a'r Alban.
Mae'r ffigyrau diweddaraf hefyd yn dangos bod GIG Cymru tipyn y tu ôl i Loegr yn nhermau targedau aros cleifion mewn Unedau Brys.
Ym mis Rhagfyr 2013, roedd 89.4% o gleifion mewn Adran Frys yng Nghymru wedi cael eu gweld o fewn 4 awr.
Mae ystadegau diweddar yn awgrymu bod 95% o gleifion yn Lloegr yn cael eu gweld o fewn 4 awr.
Ond mae Llywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Ambiwlans yn gwadu bod newid y targedau yn "gydnabyddiad o fod wedi'u trechu" ar berfformiad.
Yn y pen draw, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ehangu'r targedau i gynnwys meysydd eraill, er enghraifft gofal canser a gofal llygaid.
Cwestiynu'r newid
Mae gwleidyddion y pleidiau eraill wedi cwestiynnu amseru cyhoeddi'r mesuryddion newydd gan ddweud mai ymgais yw hyn i gladdu newyddion drwg.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams:
"Wrth gwrs, fe fyswn i'n croesawu targedau sy'n gwella canlyniadau clinigol cleifion Cymreig. Fodd bynnag, dwi'n nerfus iawn bod y cymhelliad i'r newidiadau yma yn deillio o Lywodraeth Lafur Cymru yn ceisio osgoi'r rhes o benawdau negyddol rydym wedi'u weld yn y misoedd diwethaf.
"Yn eu cynllun ar gyfer Llywodraeth gafodd ei gyhoeddi llai na thair blynedd yn ôl, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisiau cael eu barnu ar eu gallu i gyrraedd y targedau hyn. Maen nhw rwan fel pe bai nhw'n awgrymu bod yr union dargedau a mesurau hynny yn ddiwerth.
Yn ôl llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar: " Fe fydd cymunedau ar draws Cymru yn cwestiynnu'r cymhelliad y tu ôl y newidiadau hyn. Gyda thargedau'n cael eu methu yn gyson, a thoriadau anferth Llafur i'r GIG yn taflu pwysau anhygoel ar staff, dwi'n ofni bod gweinidogion yn osgoi blaenoriaethau cleifion.
"Dydy targedau amser aros mewn Unedau Brys heb gael eu cyrraedd ers 2009. Dim ond unwaith mewn 19 mis y mae amseroedd ymateb ambiwlans wedi'i gyrraedd - gyda mwy o ffigyrau ar y ffordd heddiw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2013