Gari Bevan yw Dysgwr y Flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
Gari Bevan yn derbyn ei wobr nos Fercher
Disgrifiad o’r llun,

Gari Bevan yn derbyn ei wobr nos Fercher

Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Gari Bevan, o Ferthyr Tudful, a chafodd ei wobrwyo mewn seremoni arbennig nos Fercher.

Roedd 'na bump yn y rownd derfynol am y tro cynta' erioed, a hynny wedi i'r beirniaid Heini Gruffydd, Alison Layland a Siân Lloyd benderfynu bod y safon yn rhy uchel i ddewis ond pedwar, fel sy'n arfer digwydd.

Bu teulu Gari'n rhan allweddol o'i benderfyniad i fynd ati i ddysgu Cymraeg, gan iddo ef a'i wraig, Siân, ddewis anfon eu plant i ysgol Gymraeg. Erbyn hyn, mae Siân a dau o feibion Gari'n defnyddio'r Gymraeg yn rhinwedd eu swyddi ac mae'i wyrion yn mynychu ysgolion Cymraeg.

Ers dechrau dysgu Cymraeg mae Gari - sy'n gweithio yng Nghanolfan Soar, Merthyr Tudful - yn rhan allweddol o'r criw sy'n trefnu gweithgareddau Cymraeg yn ei gymuned, ac mae hefyd yn mwynhau defnyddio'r iaith yn ei waith yn ddyddiol.

Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gari Bevan yn awyddus iawn i helpu dysgwyr eraill

Ysbrydoli

Mae'i frwdfrydedd a'i ymroddiad i ddysgu Cymraeg wedi ysbrydoli amryw o'i gwmpas a oedd heb ddefnyddio'r iaith ers dyddiau ysgol. Mae Gari hefyd yn barod ei gymwynas i ddysgwyr eraill, yn arbennig y rheiny sy'n ddi-hyder, gan gynnig cefnogaeth a chymorth mewn modd diymhongar bob tro.

Derbyniodd Gari Dlws Dysgwr y Flwyddyn (Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru) a £300 (Er cof gan deulu'r diweddar Sioned Penllyn a'r Parch W E Jones (ap Gerallt).

Disgrifiad,

Gari Bevan yn ateb cwestiynau Cymru Fyw

Y pedwar arall yn y rownd derfynol oedd Deiniol Carter, Caerdydd, Debora Morgante, Rhufain, Diane Norrell, Sir Amwythig a Patrick Young, Llan Ffestiniog. Derbyniodd y pedwar dlysau gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru ynghyd â £100 yr un, er cof gan deulu'r diweddar Sioned Penllyn a'r Parch W E Jones (ap Gerallt).

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015