Dod i 'nabod Dysgwyr y Flwyddyn

  • Cyhoeddwyd
O'r chwith i'r dde: Deiniol Carter, Debora Morgante, Gari Bevan, Diane Norrell a Patrick YoungFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i'r dde: Deiniol Carter, Debora Morgante, Gari Bevan, Diane Norrell a Patrick Young

Bydd pump, yn hytrach na phedwar, yn cystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn am y tro cyntaf eleni am fod y safon cyn uched.

Y pump a ddaeth i'r brig yw Gari Bevan, Merthyr Tudful, Deiniol Carter, Caerdydd, Debora Morgante, Rhufain, Diane Norrell, Sir Amwythig a Patrick Young, Llan Ffestiniog.

Mae Cymru Fyw yn holi un o'r ymgeiswyr pob dydd yr wythnos hon.

Bydd enillydd y gystadleuaeth yn cael ei gyhoeddi mewn noson arbennig yng ngwesty Llyn Efyrnwy ar nos Fercher, 5 Awst, am 19:00.

DYDD LLUN - DEINIOL CARTER

Yn wreiddiol o Gernyw, mae Deiniol Carter yn ddatblygwr gwefan gyda Chymdeithas Adeiladu'r Principality yng Nghaerdydd. Symudodd i Gymru dair blynedd yn ôl, ac aeth ati i ddysgu'r Gymraeg ar ôl bod yn edrych ar arwyddion ffyrdd yng Nghymru a meddwl sut roedd gwahanol eiriau'n cael eu hynganu.

Disgrifiad,

Deiniol Carter sy'n wynebu cwestiynau Cymru Fyw y tro 'ma

DYDD MAWRTH - DIANE NORRELL

Yn wreiddiol o Wrecsam, cafodd Diane Norrell ei magu ar aelwyd ddi-Gymraeg, er bod ei thad yn gallu siarad yr iaith. Roedd gan Diane ddiddordeb yn y Gymraeg pan yn yr ysgol, ond ar ôl astudio'r pwnc hyd at Safon Uwch, aeth i'r brifysgol lle graddiodd mewn Saesneg, cyn symud o Gymru a byw yn Sir Amwythig am flynyddoedd.

Disgrifiad,

Diane Norrell sy'n wynebu cwestiynau Cymru Fyw y tro 'ma

DYDD MERCHER - DEBORA MORGANTE

Yn wreiddiol o Tuscany, yn Yr Eidal, mae Debora Morgante yn byw ac yn gweithio mewn banc yn Rhufain. Fe deimlodd yn gartrefol yng Nghymru yn syth tra yma ar wyliau, a phenderfynu dysgu Cymraeg yn 2012. Drwy ddefnyddio gwefan y BBC ac adnoddau eraill ar-lein i gychwyn, yn fuan iawn roedd Debora'n teimlo bod y Gymraeg yn mynd i fod yn rhan bwysig o'i bywyd felly prynodd lyfr gramadeg, dysgu'r holl lyfr ddwywaith a chofrestru ar gwrs Cymraeg yn Llanbedr Pont Steffan yng ngwanwyn 2014. Ers hynny, mae hi wedi parhau gyda'i hastudiaethau ac mae wrthi'n dilyn cwrs Cymraeg ymarferol lefel Canolradd ar-lein.

Disgrifiad,

Mae Debora Morgante yn un o'r pump fydd yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni.

DYDD IAU - GARI BEVAN

Mae Gari Bevan yn byw ym Merthyr Tudful, ac roedd ei deulu'n rhan allweddol o'i benderfyniad i ddysgu Cymraeg. Penderfynodd ef a'i wraig, Siân, anfon eu plant i ysgol Gymraeg. Erbyn hyn, mae Siân a dau o feibion Gari'n defnyddio'r Gymraeg yn rhinwedd eu swyddi ac mae ei wyrion yn mynd i ysgolion Cymraeg hefyd.

Disgrifiad,

Gari Bevan yn ateb cwestiynau Cymru Fyw

DYDD GWENER - PATRICK YOUNG

Mae Patrick Young yn gyfarwyddwr opera, sy'n byw yn Llan Ffestiniog, Gwynedd. Symudodd i'r ardal yn 2001 wedi cyfnod o fyw yn Yr Eidal, ac aeth ati i ddysgu Cymraeg fel arwydd o gefnogaeth i weddill y teulu pan y cychwynnodd ei chwe phlentyn yn yr ysgol yn lleol.

Disgrifiad,

Dysgodd Patrick Gymraeg er mwyn cymdeithasu