Carcharu gyrrwr am achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal

  • Cyhoeddwyd
Gareth Entwhistle
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gareth Entwistle ei ddedfrydu i garchar ddydd Llun

Yn Llys y Goron Abertawe mae dyn o Giliau Aeron wedi ei garcharu am 5 mlynedd a 6 mis am achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal ac am yrru dan ddylanwad alcohol. Fe fydd yn rhaid i Gareth Entwistle dreulio hanner y ddedfryd dan glo.

Bu farw Miriam Briddon o Cross Inn, ger Cei Newydd ar ôl i'w char gael ei daro gan gar Entwistle ar yr A482 ger Ciliau Aeron ar 29 Mawrth, 2014.

Yn wreiddiol, roedd Entwistle wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiad ond fe newidiodd ei ble yng Ngorffennaf 2015.

Mae teulu Miriam Briddon, oedd yn 21 oed, wedi bod yn son am eu trallod o orfod aros blwyddyn a hanner i Entwistle gael ei ddedfrydu.

Disgrifiad,

Gohebydd BBC Cymru Aled Scourfield yn holi Ceinwen Briddon, mam Miriam

Maen nhw'n dweud fod beth ddigwyddodd yn wers na ddylai unrhyw un fyth yfed a gyrru, ac na fydd eu bywydau byth yr un fath.

Dywed mam Miriam, Ceinwen Briddon, na allai "byth faddau i Entwistle am yr hyn a wnaeth. "

Ychwanegodd: "Ni wedi colli Miriam nawr. I ni mo'yn i fe fynd i'r carchar. I ni wedi colli Miriam ond bydd unrhyw faint o flynyddoedd mae e'n cael nawr ddim yn gwneud gwahaniaeth i'r sefyllfa. Gallai byth faddau iddo fe.

"Mae neges yn un syml rhaid i chi byth yfed a gyrru, byth mynd tu ôl i olwyn car pe bai chi wedi cael diod - dim hyd yn oed un.

"Ma' canlyniad y peth yn hunllef - i ni'n dystiolaeth i hynny."

Dywed y teulu fod y gymuned leol wedi bod yn gefn mawr iddynt. Mae dros £32,000 wedi ei gasglu ar gyfer ysgoloriaeth sydd wedi ei sefydlu yn enw Miriam - gyda`r arian yn cael ei ddefnyddio i helpu myfyrwyr ifanc sydd eisiau mynd 'mlaen i fyd gwaith.

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Miram Briddon ar fin graddio mewn tecstiliau

Dywedodd ei thad, Richard: "Fe wnaeth Miriam weithio mor galed gyda gwaith coleg, roedd hi hefyd yn ysbrydoli myfyrwyr eraill.

"Mae'r gymuned wedi bod yn gefn i ni, a ni mo'yn rhoi rhywbeth yn ôl fydd yn helpu myfyrwyr y dyfodol."

Roedd Miriam Elen Briddon yn un o bedair chwaer ac yn fyfyrwraig yn ei blwyddyn olaf yng Ngholeg Sir Gâr yng Nghaerfyrddin.

Roedd hi ar fin graddio mewn tecstilau o Goleg Sir Gar, ac roedd yn gyn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Teifi ac Ysgol Gynradd Talgarreg.

Ymateb yr heddlu

Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd Ian Price, o Heddlu Dyfed Powys: "Cafodd Gareth David Entwistle o Giliau Aeron ei garcharu heddiw am bum mlynedd a hanner am achosi marwolaeth Miriam Briddon, wedi iddo yrru'n ddiofal wrth iddo yfed a gyrru. Bydd yn cael ei wahardd rhag gyrru am bum mlynedd ar ôl iddo gael ei ryddhau.

"Ar nos Sadwrn 29 Mawrth, 2014, gadawodd Miriam Briddon, oedd yn 21 oed, ei chartref yn New Inn ger Cei Newydd ar ôl iddi ffarwelio a'i theulu. Yn drist iawn, yn fuan wedyn am oddeutu 19:00 daeth bywyd Miriam i ben yn gynnar o achos gweithred dyn oedd wedi yfed a gyrru, ac oedd yn hollol ddi-hid i eraill wrth iddo fynd tu ôl i'r llyw tra'n feddw.

"Wrth yrru ar gyflymder amhriodol tra'n feddw, collodd Entwistle reolaeth ar ei gar a chroesi i'r hewl oedd yn dod i'r cyfeiriad arall tra'n ceisio gyrru ar hyd cornel oedd yn gwyro i'r chwith ar ffordd yr A482 ger Felinfach, Ceredigion. Bu ei gerbyd mewn gwrthdrawiad gyda cherbyd Miriam oedd yn teithio yn y cyfeiriad arall. Cafodd y gwrthdrawiad ganlyniadau dybryd, gan achosi anafiadau angeuol i Miriam."

Ychwanegodd: "Byddai marwolaeth gwbl ddiangen Miriam Briddon wedi gallu cael ei osgoi petai Gareth Entwistle heb fod mor ddi-hid ar y noson. Mae mynd i'r afael ag yfed a gyrru yn flaenoriaeth i Heddlu Dyfed Powys, mae'n gwbl annerbyniol ac ni fydd yn cael ei ddioddef.

"Dyma engraifft o effaith cwbl ddinistriol yfed a gyrru, gan fod marwolaeth Miriam wedi effeithio ar fywydau ei theulu a'i ffrindiau."

Bydd cyfweliad ehangach gyda Ceinwen Briddon i'w weld ar Newyddion 9 ar S4C am 21:00 nos Lun.

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Miriam Briddon ar 29 Mawrth, 2014