Ateb y Galw: Rhian Morgan

  • Cyhoeddwyd
Rhian

Yr actores Rhian Morgan sydd yn Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Llinos Mai.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Iâr fy nain yn fy mhigo pan oeddwn yn 18 mis oed - profiad echrydus! Roeddwn ar wyliau ar fferm fy ewythr yn Ninas Mawddwy ar y pryd.

Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn ieuengach?

David Cassidy

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Yn eitha' diweddar roeddwn yn gweithio ar gynhyrchiad, a rhwng y ffilmio o'n i'n siarad efo Cath Ayers. O'n i'n dweud wrthi bod y bachan ifanc roedden ni'n actio gyda fe yn hynod o olygus, ac 'odd hi'n gwneud gwyneb rhyfedd arna i - do'n i ddim yn deall pam. Roedd e'n newid tu ôl i'r llenni ac yn clywed pob dim! Fe gymrodd y compliment fel gŵr bonheddig chwarae teg.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Wythnos diwethaf i ddweud y gwir. Roeddwn i wedi cymryd amser i wneud swper i fy meibion, ac roedden nhw'n gwrthod yn lân dod i'r bwrdd i fwyta. Mae'n debyg oherwydd mai salad oedd ar y bwrdd!

Disgrifiad o’r llun,

Rhian ar ôl diwrnod siomedig arall yn y gegin!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Bwyta gormod o bwdin.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dinbych y Pysgod. Dyna lle ro'n i'n mynd ar dripiau Ysgol Sul. Dwi'n cofio canu ar y bws 'One-by, Two-by, Three-by...' nes oedden ni'n cyrraedd. Ges i gymaint o hwyl yno.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Y parti diwedd shoot ar gyfer 'Gwaith Cartref'. Ro'n i allan gyda'r actorion ifanc yn dawnsio tan 6:30 y bore - ro'n i'n prowd iawn o'n hun am allu cadw fyny gyda nhw!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Gobeithiol. Brwdfrydig. Drwg.

Beth yw dy hoff lyfr?

'O Tyn y Gorchudd' gan Angharad Price. Mae'n sôn am y fferm Ty'n y Braich yn Ninas Mawddwy lle roedd fy nhaid yn was fferm - drws nesaf i fferm fy nheulu. Mae gen i atgofion melys o'r lle.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Trwsus du - plaen ond hwylus.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Whiplash' - roedd e'n ffantastic.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rhian yn chwarae rhan Carol Gwyther yn 'Pobol y Cwm'

Mewn ffilm o dy fywyd pa actores fydda'n chwarae dy ran di?

Ffion Williams. Mae hi o Gwm Tawe hefyd, ac mi wnes i weithio gyda hi ar y gyfres 'Ar y Tracs'. Mae hi'n actores gomedi wych, ac ar y funud mae ganddon ni'n dwy wallt coch!

Dy hoff albwm?

'The White Album' gan y Beatles. Hon oedd yr albwm oedd gen i pan o'n i'n fyfyriwr yn Aberystwyth, a ma'n dod â atgofion da yn ôl o gael fy hyfforddi gan Emily Davies yno, yn ogystal â'r partïon coridor ym Mhantycelyn.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Pwdin di'n ffefryn i - rhywbeth gyda mwyar duon!

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Rebecca Evans y gantores opera. 'Di hi'm yn dod yn bell o lle ges i'n magu. Pan ro'n i'n iau ro'n i'n meddwl canu fel gyrfa, ond do'n i ddim yn medru cyrraedd y nodau uchel - mae Rebecca'n gallu. Byswn i wedi bod wrth fy modd yn perfformio mewn opera neu sioe gerdd gan Stephen Sondheim.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd canu 'karaoke' yn un o ddramâu Brecht yn help i Rhian ymarfer ei llais

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

John Pierce Jones