Dechrau'r diwedd?
- Cyhoeddwyd
Ar ei anterth roedd y diwydiant dur yn cyflogi miloedd o weithwyr ar hyd a lled Cymru, ond mae'r diwydiant dur wedi dirywio yn sylweddol dros y degawdau diwethaf. Ym mis Ionawr clywodd 750 o weithwyr Tata Steel ym Mhort Talbot y bydden nhw yn colli eu swyddi.
Mae dyfodol y safle yn fwy ansicr erbyn hyn ar ôl i fwrdd Tata Steel yn India gyhoeddi bwriad ar 29 Mawrth i werthu eu holl asedau yn y DU. Dyma olwg mewn lluniau ar y diwydiant dur yng Nghymru:


Port Talbot: Mae gwaith dur mwya'r DU yn gallu cynhyrchu bron i 5 miliwn tunnell o slab dur pob blwyddyn

Ar un adeg roedd gweithfeydd 'Abbey Works' ym Mhort Talbot yn cyflogi 18,000 o bobl

Mae gwaith dur Port Talbot yn rhan o dirlun y dre' ers troad yr ugeinfed ganrif. Mae 'na amcangyfrif bod 25,000 o bobl yn dibynnu ar y gwaith yn yr economi leol

Mae gwaith dur wedi bod ym Mhort Talbot ers 1901. Cafodd y gwaith gwreiddiol ei sefydlu i'r de o orsaf rheilffordd y dref

Y gwaith o godi safle dur yng Nglyn Ebwy ar 30 Mehefin 1937

Dyma roi syniad i chi o faint yr offer a oedd yn cael ei ddefnyddio yng ngweithfeydd dur Glyn Ebwy ar ddiwedd yr 1930au

Rhan o safle dur Brymbo ger Wrecsam a oedd yn cynhyrchu dur o 1796 tan i'r gwaith ddod i ben yn 1990

Safle anferth Llanwern ar gyrion Casnewydd. Pan agorodd y safle ar 25 Hydref 1962, roedd 13,000 o bobl yn gweithio yno

Gweithfeydd Llanwern i'w gweld o'r tai cyfagos pan roedd y melinau dur ar eu hanterth

Fe brynodd y teulu Summers 40 acer o gorsdir yn ardal Shotton yn 1895 er mwyn cynhyrchu dur yn sir y Fflint

Roedd Safle Dur Shotton yn gyflogwr enfawr yn y gogledd ddwyrain tan ddechrau'r 80au. Collodd 6,500 o weithwyr eu swyddi ar 31 Mawrth 1980

Dechreuodd safle dur Shotton gynhyrchu dur yn 1902 gan ddefnyddio naw popty anferthol

Gweithwyr yn siapio dur yn ngweithfeydd Shotton ar ddechrau'r saithdegau

Gweithfeydd Trostre, Llanelli. Roedd dros 12,000 o ddynion yn gweithio yn y diwydiant yn ardal Llanelli wedi'r Ail Ryfel Byd