'Gŵyl y Llais' yn dod i'r brifddinas
- Cyhoeddwyd
Bryn Terfel, Charlotte Church, John Cale, Van Morrison, Rufus Wainwright - dyna rai o'r artistiaid fydd yn perfformio mewn gŵyl newydd fydd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ym mis Mehefin.
Canolfan Mileniwm Cymru sy'n gyfrifol am drefnu Gŵyl y Llais, fydd yn digwydd eleni rhwng 3 - 12 Mehefin a'r bwriad yw cynnal yr ŵyl bob dwy flynedd.
Y nod yw creu gŵyl fydd yn adnabyddus yn rhyngwladol, gan geisio efelychu digwyddiadau tebyg, fel Gŵyl Ryngwladol Caeredin, Manceinion, yr Holland Festival yn Amsterdam, a Gŵyl d'Avignon.
Bydd yr ŵyl eleni'n cynnwys 78 o berfformiadau dros gynfod o 10 diwrnod, gyda 12,000 o bobl yn cymryd rhan mewn cyngherddau mewn gwahanol leoliadau yn y ddinas.
Artistiaid eraill fydd yn cymryd rhan fydd Georgia Ruth, Scritti Politti, Gwyneth Glyn, Cwmni Opera Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales.
Bydd y gantores Gwenno Saunders yn cefnogi John Cale mewn cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant.
"Fi'n meddwl bod yr ŵyl yma yn gyfle i ddangos yr ystod eang sydd 'na yng Nghymru a hefyd rhoi Cymru mewn cyd-destun rhyngwladol.
"Mae'r ffaith bod yr ŵyl yn mynd mas i'r ddinas hefyd yn ffantastic. Mae e jest yn gyfle i rhoi arlwy hynod gyffrous i bobl Caerdydd ac i bawb sydd yn dod yma i ymweld hefyd."
'Torri ffiniau'
Dywedodd llefarydd ar ran yr ŵyl eu bod "am adeiladu ar dreftadaeth unigryw Cymru fel "Gwlad y Gân" - cenedl sy'n enwog am ei thraddodiad cryf o ganu corawl yn ogystal a'u chantorion unigol.
"Adlewyrchu'r dreftadaeth honno a chreu math newydd o ŵyl sy'n torri ffiniau yw'r nod, gan gynnwys pob math o fynegiant lleisiol: opera ochr yn ochr a grime, cerddoriaeth theatr law yn llaw a roc, cabaret a gospel, a swing gyda chanu a cappella.
Bydd Gŵyl y Llais yn annog pawb i gymryd rhan - gyda chyfleoedd i bobl o bobl oed, o bobl cefndir cerddorol ac o bob lefel o brofiad.