Cynllun i adfywio canol Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Dyfodol Sgwâr y Frenhines yn Wrecsam?
Mae cynllun i adfywio canol tref Wrecsam wedi cael ei gymeradwyo gan y cyngor ddydd Mawrth.
Mae'r cynllun yn rhestru blaenoriaethau adfywio, yn cynnwys gwneud y dref yn fwy deniadol i ymwelwyr a hybu pobl i fyw yng nghanol y dref.
Canolbwynt y cynllun yw ardaloedd fel Sgwâr y Frenhines sydd yn lleoliad i farchnad awyr agored y dref, ac ardal Bodhyfryd - sydd yn gartref i ganolfan hamdden Waterworld.
Fe fydd y cynllun nawr yn dod yn rhan o gynllun ehangach i ddatblygu Wrecsam.
Dywedodd Neil Rogers, aelod o fwrdd gweithredol y cyngor: "Mae angen newid achos bod Wrecsam wedi sefyll yn llonydd dros y blynyddoedd diwethaf.
"Beth rydym yn geisio ei wneud ydi denu buddsoddiad o'r sector preifat hefyd. Ni all y cyngor dalu am hyn - mae bron a bod yn amhosib."
Mae'r cyngor wedi llwyddo i ddenu £11m o arian gan Lywodraeth Cymru'n ddiweddar i geisio cychwyn cynlluniau adfywio yn y dref - o dan y cynllun 'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid'., dolen allanol
Mae'r arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu cynllun am ganolbwynt diwylliannol yng nghanol y dref, ynghyd â cheisio gwneud defnydd newydd o siopau gwag.
Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i ail-ddatblygu safle Stryd y Bont dros y tair blynedd nesaf.