Gwerthu ffermydd cyngor yn 'drychineb', medd UAC

  • Cyhoeddwyd
Fferm

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi rhybuddio bod nifer y ffermydd cyngor sy'n cael eu gwerthu yn "drychineb" i'r diwydiant.

Mae dros 10% o ffermydd Cymru sy'n berchen i gynghorau wedi cael eu gwerthu yn y pum mlynedd ddiwethaf.

Mae ymchwil gan raglen Newyddion 9 BBC Cymru yn dangos bod cynghorau yn berchen ar 495 o ffermydd yng Nghymru - 56 yn llai na phum mlynedd yn ôl.

Dywedodd UAC eu bod yn pryderu y bydd llai o gyfleoedd i bobl ifanc i ddechrau ffermio oherwydd y sefyllfa.

Powys sy'n berchen ar y nifer fwyaf - 145 o ffermydd, gydag 17 wedi'u gwerthu yn y blynyddoedd diwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Martin wedi gwrthod gadael ei fferm yn Wrecsam, yn groes i ddymuniadau'r cyngor

Mae un o'r 13 o ffermydd y cyngor yn Wrecsam yng nghanol anghydfod cyfreithiol.

Gyda'r cyngor yn awyddus i werthu, daeth cytundeb Paul Martin i ben fis Mawrth, ond mae'r ffermwr yn gwrthod gadael, a bellach yn cael aros yno am y tro - wrth ddisgwyl achos llys.

"Maen nhw'n gwrthod ei werthu fo i mi, ond maen nhw wedi dweud 'mod i'n gallu gwneud cais am y fferm ar ôl i mi symud allan, sy'n nonsens," meddai.

Dywedodd ei fod wedi llwyddo i ohirio'r dyddiad y mae'n gorfod gadael, ond bydd yn ôl yn y llys fis nesaf yn ceisio cael yr hawl i aros.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Brian Walters ei fod yn "ofidus" bod cymaint o werthu

Dywedodd y rhan fwyaf o gynghorau nad oes ganddyn nhw gynlluniau i werthu mwy o ffermydd yn y dyfodol, ond cyfaddefodd gynghorau Powys, Sir Ddinbych, Sir Gaerfyrddin a Wrecsam eu bod yn agored i gyfleoedd i werthu.

"Mae'n eitha' gofidus bod cymaint â hynny wedi cael eu gwerthu," meddai is-lywydd UAC, Brian Walters.

"Mae'n golygu bod llai o gyfle i ffermwyr ifanc i ddod i mewn i'r diwydiant ac mae hi'n ddigon anodd ar hyn o bryd oherwydd amgylchiadau fel costau byw a'n bod yn cael llai am ein cynnyrch.

"Felly mae'n dipyn o drychineb nad yw ffermwyr ifanc yn gallu dod i mewn i'r diwydiant fel yn y gorffennol."