Llyfrgell yn prynu llawysgrif un o noddwyr Shakespeare
- Cyhoeddwyd

Wrth i ddigwyddiadau i goffáu 400 mlwyddiant marw William Shakespeare gael eu cynnal y penwythnos hwn, cyhoeddodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ei bod wedi prynu llawysgrif fu'n eiddo i un o noddwyr 'Ffolio Cyntaf' 1623.
Mewn arwerthiant yn Llundain ym mis Rhagfyr, prynodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru lawysgrif, oedd wedi ei hysgrifennu tua 1624, o waith George Owen o Sir Benfro.
Cafodd y gyfrol, sy'n cynnwys hanes ac achau Ieirll Penfro o'r Goncwest Normanaidd hyd ddechrau'r 17eg ganrif, ei chyflwyno i William Herbert, trydydd Iarll Penfro a noddwr pwerus yn llys brenhinol y dydd.
Roedd e'n un o'r ddau y cyflwynwyd y casgliad cyntaf o ddramâu Shakespeare iddyn nhw yn 1623 gan y golygyddion, John Heminge a Henry Condell, cyfeillion y dramodydd.

William Herbert, trydydd Iarll Penfro.

William Shakespeare
Mae'n ymddangos fod cyflwyno'r llawysgrif o waith George Owen yn ymgais arall i geisio ffafr William Herbert mewn cylchoedd brenhinol, ac roedd yr awdur a'i ddarpar noddwr hefyd yn perthyn o bell i'w gilydd.
Dal llygaid uchelwr a chreu argraff ffafriol oedd bwriad y gyfrol y mae'r Llyfrgell wedi ei phrynu, ac mae'n ymddangos i'r achau deniadol a'r arfbeisiau sydd ynddi gyflawni'r amcan hwnnw.

Dywedodd Pedr ap Llwyd, Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus y Llyfrgell Genedlaethol ei fod yn falch o groesawu'r llawysgrif i Aberystwyth, sef "y testun unigryw hwn, yr enghraifft gyntaf o waith George Owen yr ieuengaf i'w gynrychioli yng nghasgliadau'r Llyfrgell".
Ychwanegodd fod amseriad y pryniant yn bwysig, "gan ei fod yn dod â ni'n agos iawn at gymeriadau a diwylliant y llys brenhinol yn Llundain yn hanner cynta'r 17eg ganrif, yr union amgylchfyd lle blodeuai Shakespeare a'i gymheiriaid".