Ateb y Galw: Geraint Hardy

  • Cyhoeddwyd
geraint hardy

Y cyflwynydd Geraint Hardy sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Owain Gwynedd.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Chwarae pêl-droed gyda fy mrawd a'n ffrindiau yn y stryd tu allan ir tŷ. Wedyn os oedd hi'n bwrw glaw, chwarae yn y lounge a gyrru Mam yn wallgo.

Pwy oeddet ti'n ffansio pan yn ieuengach?

Mae'r rhestr yma'n un hir. Sai'n gwbod lle i ddechre- unrhywun gyda gwallt melyn.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Nes i gerdded mewn i bolyn lamp pan es i i Leeds. Mi wnes ddod oddiar y tren, cwrdd a grwp o ffrindie di ecseitio yn lan am y penwythnos i ddod. Pawb yn siarad a rhannu jocs. BANG - cerdded syth mewn i bolyn. Haha

Disgrifiad o’r llun,

Geraint yn neidio mewn llawenydd o gael cyflwyno Llond Ceg gyda Kizzy Crawford ac Aled Haydn Jones

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Pan gafodd yn mab i Jac i eni, nes i grio fel babi. Y foment mwya' anhygoel yn fy mywyd. Bydd pawb sydd wedi cael plentyn yn deall y wefr, a phan ddaeth y foment i bawb arall byddwch chi'n deall yn iawn pam ei fod e mor anhygoel. Dyw geirie ddim yn g'neud cyfiawnder â'r peth.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n hwyr i bobman, ma fy ffrindie yn gweud celwydd wrthai faint o'r gloch 'dyn ni'n cwrdd fel fy mod i yn troi i fyny yn agosach at yr amser cywir.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Cwestiwn anodd. Ma' fy nheulu'n dod o Fangor a Bethesda a does dim byd gwell na mynyddoedd Eryri. Yn enwedig pam ma' hi wedi bod yn bwrw eira.

Ond i'r gwrthwyneb i hynny fy hoff le i yw Stadiwm y Principality, pan mae'r lle yn llawn, Cymru'n ennill a phawb yn bloeddio.

Ffynhonnell y llun, APCE
Disgrifiad o’r llun,

Eira! Yr Wyddfa ddiwedd Ebrill eleni

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dwin hoff iawn o Ibiza a cherddoriaeth felly siwr o fod un o blith nifer o nosweithiau 'dwi di eu cael yno.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Pam bod y cwestiwn yma wastad yn codi ar bethe fel hyn? Ma fe mor anodd i'w ateb! Haha.. .ok beth am golygus, golygus a golygus. Na, dwin tynnu coes... Egnïol, hapus a brwdfrydig.

Beth yw dy hoff lyfr?

Sister gan Rosamund Lupton

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Het, gan mod i'n codi yn gynnar bob bore i gyflwyno rhaglen frecwast Capital FM - het yw'r peth pwysicaf yn y byd! Sdim angen gwneud fy ngwallt, het ymlaen a fwrdd a fi. Dim byd arall 'mlaen jest het a dwin barod amdani.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Heb fod i'r sinema ers sbel, dwi'n gwylio lot, os nad gormod o boxsets ond y ffilm ddiwetha i mi ei gweld oedd Hunger Games (sbel nôl).

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Leonardo di Caprio, hahaha, gan bo' ni'n edrych mor debyg (dwi'n chwerthin yn uchel ar hyn o bryd gyda llaw!)

Dy hoff albwm?

Mae 'na sawl albwm fedrai eu henwi, o Graduation gan Kayne West i Scouting for Girls neu Tiesto.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint yn un o gyflwynwyr rhaglen amser brecwast Capital FM

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Ma hwn yn hawdd. Paté, stêc a chips, ac wedyn sticky toffee pudding gyda hufen iâ yw'r drefn bob tro, ond sticky toffee pudding sy'n mynd a hi fel ffefryn.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?

Cristiano Ronaldo neu unrhyw bêl-droediwr enwog. Fyswn ni hefyd yn hoffi bod yn George R.R. Martin fel mod i'n gwbod y diweddglo i Game of Thrones.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Fy nhad, John Hardy