Cynnydd yn nifer y cwynion am ddronau
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn delio â chynnydd sylweddol mewn galwadau am ddronau yn yr awyr, yn ôl ffigyrau sydd wedi eu datgelu i BBC Cymru.
Heddlu De Cymru welodd y cynnydd mwyaf, gyda 38 o alwadau dros y flwyddyn ddiwethaf - cynnydd o 34 achos dros y tair blynedd diwethaf.
Fe gafodd Heddlu Gwent 19 o gwynion yn 2015-16, ac fe gafodd Heddlu Dyfed-Powys naw cwyn.
Dim ond un gwyn mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ei dderbyn ers 2010.
Roedd hefyd sôn fod dronau wedi cael eu gweld dros Garchar Abertawe dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae cais dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth wedi datgelu fod un o'r dronau hynny, ynghyd â ffôn symudol wedi cael eu cymryd gan yr heddlu, ond chafodd neb ei arestio.
Fe all unrhyw un sy'n cael ei ddal yn ceisio smyglo eitemau gwaharddedig i garchar wynebu cosbau, gan gynnwys carchar am ddwy flynedd.
Yn y cyfamser, mae cais dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth arall wedi datgelu fod cynnydd mewn galwadau i'r heddlu am ddronau yn ystod 2015-16.
