Ateb y Galw: John Hardy
- Cyhoeddwyd
![john hardy](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/15FAE/production/_89603009_2ba5b985-94ad-45e3-b46f-6306248e89ec.jpg)
Y cyflwynydd John Hardy sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan ei fab Geraint yr wythnos diwethaf.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Rhedeg ffwrdd o adref pan oeddwn i'n bedair oed. Nes i mond cyrraedd y giat a ddaeth neb i chwilio amdanaf.
Pwy oeddet ti'n ffansio pan yn ieuengach?
Jane Asher, nes i dorri nghalon pan ddechreuodd hi fynd allan efo Paul McCartney.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Gormod i restru, nes i brynu bwrdd bwydo adar unwaith a ddaeth mewn bocs llawn polysterene. Dim ond ar ol rhaffu'r polysterene ar edafedd nes i sylweddoli nad bwyd adar oedd o.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Dwi'n crïo am rhywbeth bob dydd.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Crïo.
![John yn sylwebu ar Hanner Marathon Caerdydd 2016 gyda'r rhedwr Gareth Warburton](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5959/production/_89637822_0bbf4c2d-6442-4590-b3a8-77b0e16a4a52.jpg)
John yn sylwebu ar Hanner Marathon Caerdydd 2016 gyda'r rhedwr Gareth Warburton
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Cwestiwn amhosib ei ateb. Cwm Idwal a Nant Ffrancon.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Cwestiwn anodd, geni'r plant a gwybod fy mod i 'di cynhyrchu rhywbeth o werth.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
'Sa rhai yn dewis synic, cegog a phenstiff ond 'na i setlo am prydlon, dibynadwy a sentimental.
Beth yw dy hoff lyfr?
'Martha, Jac a Sianco' gan Caryl Lewis ochr yn ochr ag 'Un Nos Ola Leuad' gan Caradog Prichard.
![John yn cadeirio ei raglen sgwrsio 'Cadw Cwmni ar S4C](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A779/production/_89637824_555d0be8-40ef-435d-9bc8-4a2d693e285e.jpg)
John yn cadeirio ei raglen sgwrsio 'Cadw Cwmni' ar S4C
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Par o jîns.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Newydd ail-gydio yn yr arferiad o fynd i'r sinema felly Eddie the Eagle a Jungle Book (oedd yn wych.)
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?
Rhywun sydd yn dipyn o linyn trons o ran ei gymeriad felly os nad fi, Hugh Grant.
![John yn cyflwyno rhaglen ddogfen yn Ne Corea](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/F599/production/_89637826_0f8694c9-f3d3-4ccf-a338-fc54c7127b02.jpg)
John yn cyflwyno rhaglen ddogfen yn Ne Corea
Dy hoff albwm?
Sgt. Pepper's Lonely Hearts Club Band gan y Beatles er bod James Taylor, Edward H, Elton John a Rod Stewart (cynnar) i gyd yn yr un categori.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?
Nai fwyta unrhywbeth heblaw treip a tomatos tun ar dôst. Cwrs cyntaf yw'r ffefryn, unai corgimychiaid neu chicken livers.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?
Unrhyw un o unrhyw faes sydd yn meddu talent, braf 'sa gweld y byd o ochr arall i'r ffens.
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Elinor Jones.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/mcs/media/images/74982000/jpg/_74982321_line976.jpg)
Gwrandewch ar John Hardy ar BBC Radio Cymru, Llun-Gwener, 05:30 a Cofio, Dydd Sul, 13:00