Tata: Dau grŵp i gydweithio ar gynllun, BBC yn deall

  • Cyhoeddwyd
Dur

Mae dau grŵp sy'n gwneud cynnig am safleoedd cwmni Tata yn y DU wedi creu cynllun i gydweithio, mae'r BBC yn ei ddeall.

Bydd Liberty House a thîm o reolwyr sydd eisiau prynu rhan o'r cwmni yn cyflwyno cynigion ar wahân ar gyfer gwaith dur Port Talbot a safleoedd eraill ddydd Llun.

Ond bydd y ddau grŵp yn datgan eu bod yn barod i gydweithio.

Daw hyn wedi adroddiadau bod y grŵp rheolwyr, Excalibur Steel, wedi cynnal trafodaethau gyda Liberty yr wythnos diwethaf.

Cydweithio

Fe wnaeth Tata gyhoeddi ei fwriad i werthu eu safleoedd yn y DU, gan gynnwys safle mwyaf y wlad ym Mhort Talbot, yn gynharach eleni.

Mae Excalibur yn gonsortiwm o ffigyrau o'r sectorau cyhoeddus a phreifat o dde Cymru.

Dywedodd Stuart Wilkie, prif weithredwr Excalibur, nad oedd am wneud sylw ar y bartneriaeth posib.

"Yr hyn rydw i'n ei wybod yw ein bod yn gorffen ein cynnig unigol ni gyda'r cyfreithwyr heddiw, cyn y dyddiad cau yfory," meddai.

Nid oedd Liberty am wneud sylw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Y gred yw y bydd cynigion yn cael eu cyflwyno i aelodau o fwrdd Tata yn Mumbai ddydd Mercher.

Mae disgwyl i Ysgrifennydd Busnes y DU, Sajid Javid, hedfan i Mumbai ar gyfer y cyfarfod, ac mae wedi cynnig buddsoddi ar y cyd gyda phartner yn y sector breifat i achub safleoedd y DU.

Yn ogystal â'r ddau grŵp o Brydain, Liberty ac Excalibur, mae sawl grŵp rhyngwladol arall yn gwneud cynigion.