Y Frenhines wedi agor y pumed Cynulliad yn swyddogol

  • Cyhoeddwyd
Frenhines

Mae'r Frenhines wedi agor y pumed Cynulliad yn swyddogol mewn seremoni ym Mae Caerdydd.

Gyda Dug Caeredin, Tywysog Cymru a Duges Cernyw fe wnaeth y Frenhines gyfarfod arweinwyr y grwpiau gwleidyddol cyn annerch Aelodau'r Cynulliad.

Cafodd Hen Wlad Fy Nhadau a God Save The Queen eu chwarae wrth i'r ymwelwyr brenhinol gyrraedd y Senedd.

Mae un AC, Bethan Jenkins o Blaid Cymru, wedi penderfynu peidio mynychu'r seremoni. Ond roedd arweinydd y blaid, Leanne Wood, wnaeth osgoi'r seremoni yn 2011, yn bresennol.

Disgwyl Mesur Cymru

Yn ogystal ag Aelodau Cynulliad, roedd disgyblion o wahanol ysgolion ac unigolion o glybiau fel y Sgowtiaid, Youth Cymru a Chlybiau Merched a Bechgyn Cymru yn bresennol, a chynrychiolwyr o wahanol sectorau yng Nghymru.

Yn ystod y diwrnod hefyd, mae disgwyl y bydd Mesur Cymru yn cael ei gyhoeddi.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru a San Steffan ddadlau am yr hyn fyddai yn cael ei gynnwys yn y mesur.

Yn ystod y seremoni roedd areithiau gan y Llywydd Elin Jones, y Frenhines a'r Prif Weinidog Carwyn Jones.

Frenhines
Disgrifiad o’r llun,

Gyda'r Frenhines oedd Dug Caeredin, Tywysog Cymru a Duges Cernyw

Roedd perfformiadau cerddorol gan Only Boys Aloud, myfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

Fe berfformiodd y côr ddarn corawl newydd sydd wedi ei gyfansoddi yn arbennig ar gyfer y digwyddiad gan yr Athro Paul Mealor, sef 'Wrth Ddŵr a Thân'. Dr Grahame Davies sydd wedi ysgrifennu'r geiriau.

Mae Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, wedi cyfansoddi'r gerdd 'Y Tŷ Hwn' fel anrheg i'r Frenhines ar achlysur ei phenblwydd yn 90 oed.

Fe berfformiodd Telynores swyddogol Tywysog Cymru, Anne Denholm, bedwar darn.

Elin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Elin Jones ei hethol yn Llywydd fis Mai

Y byrllysg

Yn ystod y seremoni, fe gariodd un o weithwyr y Cynulliad y byrllysg a'i osod mewn safle pwrpasol. Mae hyn yn dynodi agoriad y pumed Cynulliad. Rhodd gan Senedd De Cymru Newydd yn Awstralia yw'r byrllysg.

Dywedodd y Llywydd newydd, yr Aelod Cynulliad Elin Jones: "Mae'n bwysig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei gadarnhau fel canolbwynt ar gyfer bywyd dinesig, gwleidyddol a diwylliannol Cymru.

"Dyna pam mae Agoriad Swyddogol y Cynulliad yn rhan mor bwysig o fywyd Cymru. Dyma Agoriad Swyddogol Senedd Cymru a dyna pam mae angen inni sicrhau bod yr achlysur ei hun yn adlewyrchu'r pwysigrwydd hwnnw.

"Mae hefyd yn gyfle i ni arddangos a dathlu'r doniau sydd gennym yma yng Nghymru, wrth i ni nodi dechrau Pumed Cynulliad Cenedlaethol Cymru."