Cymorth GIG i bobl ag anableddau dysgu
- Cyhoeddwyd
Bydd cleifion sydd ag anableddau dysgu yn cael help pan fydd angen gofal ysbyty arnyn nhw, fel rhan o wasanaeth newydd.
Fel rhan o'r gwasanaeth, bydd staff yn cael gwybod pwy sydd angen cefnogaeth pan yn cael triniaeth ysbyty yn ardaloedd Pen-y-bont ac Abertawe.
Mae'r cynllun wedi ei greu gan deulu Paul Ridd, fu farw yn ysbyty Treforys yn 2009.
Clywodd cwest fod Mr Ridd, oedd yn 53 oed ac o Bort Talbot, wedi marw o achosion naturiol, ond bod esgeulustod wedi cyfrannu at ei farwolaeth.
Clywodd y gwrandawiad fod yna wendidau mawr yn y gofal nyrsio a gafodd.
Ers hynny, mae ei chwaer a'i frawd, Jayne Nicholls a Jonathan Ridd, wedi brwydro i sicrhau fod safonau gofal i gleifion sydd ag anableddau dysgu yn gwella - gyda'r gwasanaeth newydd ar gael yn holl ysbytai ardal Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg.
Bydd yn sicrhau bod anableddau unigolion yn cael eu nodi ar nodiadau meddygol, a bod sticeri yn cael eu gosod ar welyau i hysbysu staff.
Bydd nyrsys cyswllt ar gael hefyd, yn ogystal â hyfforddiant ymwybyddiaeth i staff.
"Roeddwn i'n rhyfeddu nad oedd dim byd fel hyn ar gael pan fuodd Paul farw yn 2009," meddai Mrs Nicholls.
"Pethau fel deall beth sy'n gwneud i unigolyn deimlo'n gyfforddus - efallai y byddai'n well ganddyn nhw gael dillad gwely o'u cartref, neu gael aelod o'u teulu i'w bwydo nhw.
"Weithiau, byddai'n well mynd â nhw ar ymweliad i'r ysbyty o flaen llaw er mwyn dod yn gyfarwydd â'r lle.
"Mae e i'w wneud â blaengynllunio - mae pobl sydd ag anableddau dysgu yn gymhleth... Os ydych chi'n gwella'r profiad gofal iechyd, fyddan nhw ddim yn dychryn a mynd i banig, a bydd hynny hefyd yn helpu gweithwyr i wneud eu swyddi'n iawn."
Dywedodd y nyrs ymgynghorol, Christopher Griffiths, sy'n arwain y gwasanaeth, y byddai nyrsys cyswllt ar gael i baratoi cleifion cyn iddyn nhw fynd i'r ysbyty yn ogystal â'u cefnogi yn ystod eu hamser yno ac ar ôl iddyn nhw ddychwelyd adref.