Gwinllan a roddwyd...

  • Cyhoeddwyd
llinos a dylan

Pan fyddwn yn meddwl am winoedd gorau'r byd lle sy'n dod i'r meddwl? Ffrainc? Yr Eidal? Chile? Awstralia?... ond beth am Gymru?

Mae Dylan Rowlands o Ddolgellau yn arbenigwr gwin ac mae'n rhedeg bwyty a bar Gwin Dylanwad yn y dre. Mae Dylan yn rhannu dipyn o'i arbenigedd gyda Cymru Fyw ynglŷn â'r gyfrinach o gynhyrchu gwin o safon, ac sut mae gwinoedd Cymru yn cymharu â'r gorau yn y byd:

Er bod gwinllanoedd a Chymru ddim yn draddodiadol yn cael eu trafod yn yr un gwynt, erbyn hyn, mae dipyn o sôn am win Cymreig. Teithiwch yn ôl i oes y mynachod ac yn wir, cawn dystiolaeth o gynhyrchu gwin yma.

Mae gwinllan Ancre Hill yn credu fod enw'r stad yn tarddu o'r Hugenots ac mae Richard Morris yn sicr eu bod wedi dewis y safle oherwydd yr amodau ffafriol i dyfu gwin. Yn yr 1870au gorchmynnodd y trydydd Marquis o Bute ei brif arddwr i sefydlu gwinllan yng Nghastell Coch ger Caerdydd. Felly mae mwy o hanes i win yng Nghymru na thybiwn.

Mae'r broses o wneud gwin yn eithaf syml. Yn Ne Affrica, nododd cyfaill sy'n cynhyrchu gwin yno fod gweithwyr yn dod i'r winllan yn y bore gyda bag plastig, rhoi clwstwr o rawnwin ynddo a'u malu'n fras cyn, yn syml iawn, eu gadael yn hongian yn yr haul oddi ar bostyn. Mae'r gwres yn cychwyn eplesiad o'r burum naturiol ar y croen a drannoeth, mae'n win! Dim Château Margaux falle ond dyna'r camau elfennol a syml sy'n cynhyrchu gwin.

Mae chwe ffactor yn cyfrannu i wneud gwin a'r ddau gyntaf yw hinsawdd a thywydd. Dyma un anhawster yng Nghymru, a'r mwyaf gogleddol yr ewch y mwyaf anffafriol yw'r tywydd i dyfu gwinwydd. Efallai wir fod cynhesu byd-eang yn gymorth i Gymru yn y maes tyfu grawnwin ond mae'n dal yn sialens.

Er hyn, mae rhai cynhyrchwyr penderfynol yn goleuo'r ffordd ac mae bron i 20 gwinllan yng Nghymru: Pant Du ger Penygroes, Caernarfon; Llaethliw yn Neuaddlwyd ger Aberaeron; Ancre Hill yn Sir Fynwy; Whitecastle yn Y Fenni a Glyndwr yn Llanblethian ym Mro Morgannwg ond i enwi rhai ac mae un newydd sbon yng Nghonwy.

Felly sut maen nhw'n llwyddo yn y llefydd annisgwyl yma? Wel, mae hinsawdd Cymru ar y ffin ac mae angen hafau addfwyn a gaeafau sydd ddim yn rhy galed. Rydym yn cyrraedd y meini prawf yma mewn rhai rhannau o Gymru, os ydyn ni'n lwcus gyda'r tywydd,

Mae angen sicrhau eich bod yn gwneud y gorau o hyn gyda'r tir neu'r 'terroir', sef y trydydd ffactor ar ôl hinsawdd a thywydd. Nid oes, o reidrwydd, angen tir da, ond mae llethrau sy'n wynebu'r de yn mynd i sicrhau fod y gwinwydd yn manteisio ar bob eiliad o'r haul prin sydd gennym.

Y tri ffactor olaf yw'r meysydd ble mae'r gwinwr â'r mwyaf o ddylanwad, sef y winwyddaeth; y dulliau a ddefnyddir i wneud y gwin, ac yn olaf, y math o rawnwin. Mae'r math o rawnwin yn chwarae rhan allweddol, gyda thua 2,000 gwahanol fath yn cael eu defnyddio i wneud gwin trwy'r byd. Ond, ni fydd pob un yn llwyddo i dyfu yn yr amodau Cymreig.

Felly, mae angen tyfu mathau fel Solaris, Rondo neu Seyval Blanc ymysg eraill, grawnwin sy'n gweddu i'r hinsawdd orllewin gogleddol. Gwelir hyn fel mantais i gynnig rhywbeth gwahanol yn lle'r grawnwin clasurol rydym i gyd yn gyfarwydd gyda nhw erbyn hyn.

Nid ffad yw'r busnes gwin yng Nghymru: gwelir gwinwyr gwirioneddol o ddifri - mae'n rhaid bod, oherwydd nid oes incwm am y blynyddoedd cyntaf tra mae'r gwinwydd yn aeddfedu. Rhaid aros am ryw bum mlynedd i gael grawnwin o safon i wneud gwin o'r winwydden.

Yn Ancre Hill, mae'r teulu wedi buddsoddi yn fawr mewn adeilad newydd sbon i wneud y gwin gan ddefnyddio technoleg gynaliadwy a defnyddiau naturiol - waliau o wellt a tho byw gwyrdd i ddarparu rheolaeth tymheredd a lleithder addas. Os nad yw hyn yn dangos ymroddiad, ni wn beth sydd.

Nid yw gwin yn rhad i'w gynhyrchu yng Nghymru. Does dim amodau i gynhyrchu gwinoedd mawr, cryf, coch fel Awstralia. Arbenigaeth Cymru yn y byd gwin fydd gwinoedd ffrwythus, ysgafn coch a gwin gwyn sych aromatig gyda lefelau alcohol rhesymol - sy'n eithaf deniadol ac yn rhyddhad o winoedd ardaloedd poeth sy'n gallu cyrraedd 16% alcohol.

Ond yn allweddol, nid oes gwahaniaeth mawr rhwng hinsawdd a thywydd Cymru a Champagne yn Ffrainc (edrychwch ar linellau lledred ar fap). Mae'r gallu gennym i greu gwin gwyn, crisb, sych, asidig fel sylfaen i wneud gwin byrlymus sydd cystal â Champagne.

Gyda ffasiwn ffydd a'r parodrwydd i fentro gan ein gwinwyr (a gwragedd!) dewr a gweledigaethol, mae yna bendant ddyfodol disglair i win Cymru i gystadlu o ddifri ar lwyfan byd eang.