Ymweliad David Cameron a'i deulu â Phen Llŷn
- Cyhoeddwyd
Nid bob dydd mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ymweld â chornel fach o Ben Llŷn.
Ond dyna wnaeth David Cameron a'i deulu ychydig dros bedair blynedd yn ôl ar seibiant byr o 10 Downing Street.
Roedd Mr Cameron, ei wraig, Samantha, a'i blant yn nhafarn bellennig Tŷ Coch ym Mhorthdinllaen dydd Sul y Pasg yn 2012.
Wrth i Mr Cameron hel ei bac a gadael Downing Street bu Richard Birch, o'r Groeslon ger Caernarfon, yr unig ffotograffydd proffesiynol i dynnu lluniau o'r Prif Weinidog ar y diwrnod hwnnw ym Mhen Llŷn, yn adrodd yr hanes wrth Cymru Fyw:
Cefais wybod gan rywun fod David Cameron wedi trefnu i gael cinio dydd Sul yn y Tŷ Coch, felly fe es i lawr yno ar ben fy hun gyda'r camera yn fy mag, fel nad oedd unrhyw un yn gallu ei weld.
Pan wnes i gyrraedd roedd yna dipyn o bobl o gwmpas, ond doedd dim golwg ohono felly fe es i mewn i'r dafarn.
Wrth i mi gerdded allan fe wnaeth David Cameron gerdded mewn gyda'i wraig a'i blant gyda theulu arall. Dwi ddim yn siŵr iawn pwy oedden nhw, ond roedden nhw'n deulu agos.
Fe es i o'r dafarn gan gerdded tipyn o bellter i ffwrdd gan aros iddyn nhw ddod allan ac eistedd ar y wal fel mae pawb arall yn ei wneud yno.
Roeddwn i ryw 100 llath i ffwrdd pan ges i'r camera allan i dynnu cwpwl o luniau. A dydw i ddim yn gor-ddweud, ond o fewn ryw 20 eiliad roedd yna law ar fy nghefn.
"Pwy wyt ti?" meddai dyn gyda rhywbeth yn ei glust, oedd yn amlwg yn rhan o dîm diogelwch Cameron.
Fe ddywedais i pwy oeddwn i gan egluro fy mod i'n gweithio ar ran y Daily Post ac wedi tynnu lluniau o William a Kate pan oedden nhw ar Ynys Môn. Roeddwn i'n gobeithio felly byddai fy enw i'n dod fyny yn rhywle.
Ar ôl iddo gadarnhau fy enw fe ddywedodd wrtha i fod gen i 10 munud gan fynnu nad oeddwn i fynd yn agosach. Roedd y dyn yn gwisgo siaced Barbour ac o sylwi roedd yna ryw dri neu bedwar ohonyn nhw o gwmpas wedi gwisgo'n o debyg.
Roedd y Camerons, fel unrhyw deulu arall, yn mwynhau Sul y Pasg a'r plant yn rhedeg rownd gyda'u hufen iâ. Roedd gan Cameron wydr Marston Pedigree, felly dwi'n cymryd mai dyna oedd o'n yfed a Samantha yn bwyta creision Walkers coch.
Ar ôl ryw chwech i saith munud dywedodd y dyn yn y siaced Barbour: "Rwyt ti wedi cael digon o amser," ac fe atebais: "Do, diolch yn fawr iawn."
Oherwydd lleoliad tafarn Tŷ Coch roedd yn rhaid i mi gerdded pasio David Cameron i fynd fyny'r traeth. Pan oeddwn i ryw 10 llath i ffwrdd fe godais fy llaw gan ddweud: "Rwy'n sori am darfu, mwynhewch gweddill eich gwyliau."
Gyda'i law fe wnaeth alw arna i fynd ato, gan ddweud: "Dydyn ni ddim yn meindio dy fod yn tynnu lluniau a dwyt ti heb darfu, cyn belled nad oes lluniau o'r plant."
"Does yna ddim", meddwn i, "ac mae croeso i chi edrych ar y camera."
"Does dim angen gwneud hynny," meddai Cameron, "a diolch am ddymuno gwyliau braf i ni," cyn ysgwyd fy llaw.