Tynnu dŵr i'r dant
- Cyhoeddwyd
Mae ardal Y Fenni yn gyrchfan poblogaidd i fwydgarwyr o bedwar ban byd ac wrth reswm bydd gan Eisteddfotwyr y dewis mwyaf blasus o lefydd i fwyta neu bicio am beint eleni.
Yma, mae Scott Grant Crichton, Cyfarwyddwr Rhaglennu a Lletygarwch Gŵyl Fwyd y Fenni, wedi mynd ati i lunio rhestr o'i hoff lefydd ef i fwyta yn yr ardal. Os ydych chi eisiau pryd bwyd o safon arbennig, neu hyd yn oed paned a chacen - mae rhywbeth sy'n gweddu pob poced. Mwynhewch!

Ar y cyrion
Ar gyfer prydau bwyd o'r safon uchaf, mae yna bedwar lle amlwg. Yn gyntaf, The Walnut Tree Inn yn Llanddewi Ysgyryd, bwyty sydd â seren Michelin, ble mae Shaun Hill yn coginio pysgod a bwyd môr yn berffaith, ochr yn ochr â seigiau offal hyfryd.

The Walnut Tree, Llanddewi Ysgyryd
Nesaf mae The Hardwick ar Hen Heol Rhaglan. Mae Stephen Terry yn cynnig dewis arbennig o brydau sy'n addas i bawb. Ond rwy'n argymell eich bod chi'n trio ei bryd enwocaf - hash o confit hwyaden gydag ŵy hwyaden.
Yn Cross Ash mae'r gŵr a'r wraig, Simon a Kate King, yn rhedeg eu bwyty, 1861. Mae Simon yn coginio bwyd lleol, ac yn sicrhau fod pob manylyn a chynhwysyn yn ei le. Daw'r rhan fwyaf o'r llysiau o blanhigfa tad Kate yn Nant-y-deri. Mae'r fwydlen blasu saith cwrs wir yn bleser.
Tim McDougall (gynt o'r Celtic Manor) yw'r prif gogydd yn Llansantffraed Court Hotel yn Llanfihangel-y-gofion, ac mae'n defnyddio gymaint o gynnyrch Sir Fynwy ag y gallai.
Ar gyrion y dref, ar hyd Hen Heol Henffordd, fe ddowch ar draws y Crown ym Mhantygelli, ble bydd Steve a Cherrie Chadwick yn eich croesawu i'w gastro-pub. Ar ddiwrnod braf, gallwch eistedd mas ar y patio a chael golygfa odidog o fynydd Ysgyryd. Mae yma hefyd ddewis eang o gwrw a seidrau gwych.

Mae miloedd yn heidio i Ŵyl Fwyd Y Fenni bob blwyddyn - mae'n dref sy'n llawn opsiynau gwych os ydych chi eisiau tamaid blasus i'w fwyta
Tref Y Fenni
Yn nhref y Fenni ei hun, mae dewis mawr o lefydd bwyta. Gallwch fwyta mewn steil yn Stafell y Dderwen yng Ngwesty'r Angel, neu yn llai ffurfiol ym mar Foxhunter, wrth gael peint o gwrw lleol gyda'ch pryd. Yn Stafell Wedgewood, gallwch drio eu te prynhawn gwobrwyedig.
Lan y ffordd ar Sgwâr Sant Ioan (gyferbyn â'r prif swyddfa bost) mae Gwesty King's Arms, ble mae Jim Hamilton yn coginio nifer o brydau traddodiadol, gyda thro anarferol. Yma hefyd cewch fwynhau cwrw lleol o safon.
Os hoffech chi drio rhywbeth ychydig mwy egsotig, yna mae yna ddau fwyty sy'n cynnig bwyd o Nepal. Maen nhw'n ddewis ychydig mwy diddorol na'ch bwyty Indiaidd cyffredin. Y cyntaf yw Regency 59 yng Ngwesty'r King's Head ar Stryd y Groes, ble mae'r prif gogydd Krishna Bhandari yn sicrhau ei fod yn defnyddio llawer o gynnyrch lleol o Gymru. Yr un arall yw Gurkha Corner ar Stryd Nevill.

Stryd y Groes, ble mae Gwesty'r King's Head wedi ei leoli
Paned a chacen
Os mai te a choffi sy'n mynd â'ch bryd, mae yna bethwmbreth o ddewis yn y Fenni.
Dylech chi bendant geisio mynd i The Art Shop & Chapel ar Heol y Farchnad, ac mae yna ddewis helaeth yno o fwyd ar gyfer rhai sydd ag anghenion dietegol. Os oes gennych chi ddant melys, yna Emeline's ar Lôn Lewis yw'r lle i chi, gyda chacennau cartref blasus iawn.

Trading Post - lle da am baned
Ar Stryd Nevill, mae nifer o siopau te a choffi. Y tri sy'n sefyll mas yw The Coffee Pot, The Trading Post a Get Together, sydd hefyd yn gwerthu cinio ysgafn.
Yn olaf, ond nid y lleiaf, mae'r Tithe Barn ar Stryd y Mynach, drws nesaf i'r byd-enwog Eglwys y Santes Fair. Eto, dyma le hyfryd i gymryd seibiant a chael brechdan a diod mewn lleoliad hanesyddol. Wedyn gallwch bicio i'r ganolfan gwybodaeth i dwristiaid, sydd o fewn yr un adeilad, i weld ble i fynd nesaf...
Eleni bydd Gŵyl Fwyd Y Fenni yn cael ei chynnal 17 a 18 Medi, dolen allanol