Parêd Pride Cymru'n dathlu cydraddoldeb yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd un o'r dathliadau mwyaf o gydraddoldeb yng Nghymru yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, gyda disgwyl i filoedd o bobl fynychu'r digwyddiad yng Nghaerdydd.
Ond ar drothwy'r dathliadau, mae pryderon wedi'u codi na fydd yr ŵyl yn gallu cael ei chynnal y flwyddyn nesaf.
Dyma fydd y pumed flwyddyn i Pride Cymru gynnal parêd yn y ddinas, ac fe gafodd dros 1,000 o bobl eu denu i'r digwyddiad y llynedd.
Bydd yr orymdaith yn dechrau ar Heol y Frenhines am 11:00, gan symud i Barc Biwt ble fydd digwyddiadau'n cael eu cynnal.
Bydd Heddlu De Cymru yn dangos eu cefnogaeth i'r digwyddiad gan ddadorchuddio car newydd yn lliwiau Pride.
Fe fydd y car yn teithio trwy'r ddinas yn hybu pwysigrwydd y gymuned hoyw, deuryw a thrawsrywiol.
Ond mae Cadeirydd Pride Cymru, Lu Thomas wedi dweud eu bod wedi cael gwybod na fydd y digwyddiad yn gallu cael ei gynnal yn yr un modd yn 2017.
Bydd Parc Biwt yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ardal cefnogwyr ffeinal bêl-droed Cynghrair y Pencampwyr, sy'n cael ei gynnal yn Stadiwm Principality.
Mae awgrymiadau y gall y digwyddiad symud i leoliad arall, ond dywedodd Ms Thomas nad oes lleoliad arall addas yn y brifddinas.
Ond mae Cyngor Caerdydd wedi mynnu nad ydi hyn yn golygu y bydd y digwyddiad yn cael ei ganslo y flwyddyn nesaf.
Dywedodd llefarydd: "Mae tîm digwyddiadau'r cyngor yn asesu pob opsiwn posib a byddan nhw'n parhau i weithio gyda'r trefnwyr ac yn parhau i gefnogi'r digwyddiad."