Cyhoeddi enwebiadau BAFTA Cymru 2016
- Cyhoeddwyd
Cyfres deledu Y Gwyll sydd yn arwain y ffordd unwaith eto gyda phedwar enwebiad yng ngwobrau BAFTA Cymru eleni.
Mae'r ddrama dditectif wedi cael ei henwebu ar gyfer y gwobrau 'Drama Deledu' a 'Cyfarwyddwr: Ffuglen', ac mae Richard Harrington a Mali Harries hefyd wedi cael eu henwebu yng nghategoriau'r Actor ac Actores gorau.
Roedd y gyfres hefyd wedi cael ei henwebu sawl gwaith yng ngwobrau 2015 a 2014.
Cafodd y ddrama deledu 35 Diwrnod a'r ffilm nodwedd Yr Ymadawiad dri enwebiad yr un, gyda 35 Diwrnod a'r ddrama wleidyddol Byw Celwydd yn cystadlu yn erbyn Y Gwyll yng nghategori'r Drama Deledu.
Mae tri enwebiad yr un hefyd i'r rhaglenni ffeithiol 'Tim Rhys Evans - All in the Mind', 'Swansea Sparkle: A Transgendered Story' a 'Iolo's Brecon Beacons'.
Cafodd meini prawf y gwobrau eu haddasu eleni er mwyn caniatáu i Gymry sydd gweithio ar gynyrchiadau rhwydwaith y Deyrnas Unedig gael eu cydnabod, ac mae'r rheiny sydd wedi elwa yn cynnwys Aneurin Bernard (Actor, War and Peace), Phil John (Cyfarwyddwr: Ffuglen, Downton Abbey) a Catrin Meredydd (Dylunio Cynhyrchiad, Jekyll and Hyde).
Fe fydd enillwyr gwobr Siân Phillips a'r wobr Cyfraniad Arbennig yn cael eu cyhoeddi ar 22 Medi.
Bydd y 25ain gwobrau BATFA Cymru yn cael eu cynnal ar 2 Hydref, gan gydnabod cyfraniad pobl o Gymru ym meysydd cynhyrchu ffilm a theledu, crefft a rolau perfformio.
Mae rhestr lawn o'r enwebiadau i'w gweld ar wefan BAFTA Cymru, dolen allanol.