Ateb y Galw: Owain Tudur Jones
- Cyhoeddwyd
Owain Tudur Jones, y sylwebydd pêl-droed a chyn chwaraewr canol cae Cymru ac Abertawe, sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon. Fe gafodd o ei enwebu gan Joe Allen yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cicio pêl. Ym mhob man. Drwy'r amser.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Pamela Anderson oedd Y pin-up pan o'n i'n tyfu fyny yn y 90au.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Doeddwn i ddim yn teimlo'n grêt ar ôl colli 7-1 yn fy ymddangosiad cyntaf i Norwich o flaen 26,000 o bobol. Nes i sgorio yn rhwyd fy hun yn fy nhrydedd gêm iddyn nhw. I wneud pethau'n waeth roedd y gêm yn erbyn Sunderland yn fyw ar Sky!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Ar ôl colli Taid ddechrau'r flwyddyn yn 89 oed.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Braidd yn styfnig ar adegau.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Unrhyw le yng nghanol mynyddoedd Eryri. Mae Cwm Idwal yn lle anhygoel.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Unrhyw noson ar ôl llwyddiant pêl-droed (dyrchafiad, neu ennill gêm fawr). Rhywbeth sbeshal o gael dathlu efo gweddill y tîm.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Dyn tal ofnadwy.
Beth yw dy hoff lyfr?
Wrth fy modd yn darllen llyfrau Lee Child am ei gymeriad caled, di-nonsens, Jack Reacher.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Dillad golff. Er nad ydw i wedi chwarae llawer yn ddiweddar, dwi'n gobeithio bod nôl ar y cwrs llawer mwy flwyddyn nesa'.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
'No Escape' efo Owen Wilson ar ôl i ffrind ei chanmol. Lot gwell nag o'n i'n ei ddisgwyl.
Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fydda'n chwarae dy ran di?
Jean-Claude Van Damme.
Dy hoff albwm?
Un o'r rhai Stereophonics cynnar.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?
Pwdin pob tro. Eton Mess, Sticky Toffee Pudding, 'wbath melys!
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai o/hi?
'Fallai dyn o'r enw Conor McGregor sy'n cwffio yn yr UFC (Ultimate Fighting Championship) - fy hoff beth i wylio.
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Caryl Parry Jones.