Dyddiau cŵn
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n gamp y mae'r Cymry wedi rhagori ynddi hi ers degawdau, ond beth yw'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo mewn treialon cŵn defaid?
Pwy well i geisio ateb y cwestiwn na Aled Owen o Dŷ Nant ger Corwen. Mae Aled wedi bod yn bencampwr byd ar ddau achlysur ac wedi bod yn brif bencampwr Prydain bedair gwaith.
Beth sy'n hynod am y gamp honno yw ei fod o wedi ennill y teitl mewn pedair gwlad wahanol gyda phedwar ci gwahanol.
"Mae'n hollbwysig cael ci sy'n gallu canolbwyntio yn iawn ac efo cryfder y meddwl ac sy'n llawn gwaith," meddai Aled.
"Mae 'na rhai cŵn sy'n colli diddordeb ac yn codi penau. Mae angen ci sy'n barod i ddysgu. Os ydyn nhw 'chydig bach yn sensitif, neu os 'di'r awydd 'na ddim ynddyn nhw, does dim posib eu dysgu nhw cystal.
"Ma'n rhaid iddo fod yn gi fferm da. Dwi'n lwcus bod gen i ddigon o waith i'r cŵn efo'r defaid sydd gen i felly dwi'n ffeindio allan reit sydyn os 'di'r gallu ynddyn nhw i symud y defaid. Mae rhai cŵn bach yn ofnus o ddefaid ac ychydig yn wan. Dydy rheiny ddim digon da ac mae'n hawdd gweld y gwendid mewn treialon."
Y to ifanc
Er bod yna lai yn cystadlu men treialon cŵn defaid nag oedd 'na ugain mlynedd yn ôl, mae'r grefft yn cael ei harddel gan gystadleuwyr ifanc. Yn eu plith mae Elin Pyrs o Padog ger Betws y Coed.
"Nes i ddechrau gweithio efo'r cŵn defaid pan o'n i tua 10 oed," meddai Elin. "Roedd Dad wastad 'di bod yn hyfforddi cŵn defaid, ac 'da ni fel plant di bod yn mynd i'r cae efo fo i drio helpu. Ges i gi bach gen dad a wnes i ddechrau hyfforddi hwnnw.
"Dwi'n un o 10 o blant, pump o ferched a pump o hogia. Does gan y brodyr ddim fawr o ddiddordeb efo'r cŵn, i ddeud gwir merched y teulu sydd yn hoffi gwneud.
"Mae 'na ddwy ohona ni'n cystadlu ac mae 'na chwaer arall sy'n ddeunaw ac yn cymryd diddordeb. Mae'r ddwy iau hefyd yn dechrau cael eu dysgu gan Dad."
'Blwyddyn i bob coes'
"Fe allai hi gymryd blynyddoedd i hyfforddi ci newydd," eglurai Elin. "Maen nhw'n dweud 'blwyddyn i bob coes', felly tua pedair oed 'di nhw ar eu gorau.
"Mae hyd gyrfa'r cŵn yn gallu amrywio achos ma' 'na rai sy'n ffit ac efo stamina, ac mae 'na rai fydd 'falle ddim yn para mor hir. Fel arfer maen nhw'n dechrau stopio cystadlu ar ôl iddyn nhw droi'n wyth i naw oed.
"Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn gŵn sydd efo clust da, sydd eisiau gweithio ac sy'n awyddus i'ch plesio chi - mae 'na rhai cŵn sydd jyst ddim isho gweithio efo chi. Mae angen iddo gael digon o egni ac efo dyfalbarhad.
"Efo diet, ma'n bwysig iddyn nhw gal y maeth cywir - nes i sylwi wedi imi ddechrau prynu bwyd drytach bod gan y cŵn mwy o egni."
Er bod yna flynyddoedd wedi mynd heibio ers i filiynau o bobl wylio'r cystadlu ar y teledu yn y gyfres One Man and his Dog, mae Aled yn credu bod datblygiadau newydd wedi rhoi hwb i'r traddodiad a bod safon y cystadlu mor uchel ag erioed.
"Dwi'n teimlo fod pethau'n gwella dyddia 'ma, gan fod yna well cyfleoedd busnes efo magu cŵn sy'n ffordd dda o ddechrau yn y maes a chael pobl ifanc i weithio efo cŵn fferm," meddai.
"Kevin Evans, adeiladwr o Aberhonddu, enillodd y brif bencampwriaeth yn y Treialon Rhyngwladol yn Nhywyn yn ddiweddar. Ross Games, dyn ifanc hefyd o Aberhonddu oedd yn drydydd.
"Felly mae 'na gystadleuwyr o safon ymysg y criw ifanc sy'n dod drwodd. Maen nhw'n cael addysg dda dyddia' 'ma - maen nhw'n cael eu dysgu yn well na blynyddoedd a fu.
"Mae Ross wedi bod yn gweithio lot efo Kevin Evans, ac mae Elin wedi cael ei dysgu gan Eryl, ei thad. Mae 'na rai hefyd wedi bod efo fi. "
Merched y maes
Mae 'na dŵf hefyd yn nifer y merched sy'n cystadlu yn rheolaidd ac mae Elin wedi mantesio ar hynny.
"Os ewch chi nôl tua 20 mlynedd doedd 'na ddim llawer o ferched yn cymryd rhan, ond erbyn rŵan mae mwy o ferched yn cystadlu ac yn gwneud efo cŵn defaid.
"Roedd 'na 60 yn cymryd rhan yn y treialon rhyngwladol yn Nhywyn ac roedd 'na rhyw hanner dwsin o ferched.
"Dwi'n meddwl bod merched yn ca'l chwarae teg yn y gamp. Byswn i'n deud bod ambell un sy' ddim yn keen arnom ni yn cystadlu am ein bod ni yn ifanc yn hytrach na'r ffaith ein bod ni'n ferched.
"Mae hi'n uchelgais i mi i fod yn rhan o dîm Cymru rhyw ddydd a chystadlu yn y bencampwriaeth rhyngwladol.
"Mae Cymru yn un o'r gwledydd gorau yn y byd am drin cŵn, ond mae'n dechrau dod yn fwy poblogaidd dramor rŵan ac mi fydd pencampwriaeth y byd yn cael ei chynnal yn yr Iseldiroedd flwyddyn nesaf."
Pwy a ŵyr, rhyw ddydd, efallai y bydd Elin yn bencampwr byd fel Aled. Beth yw ei gyngor o felly? "Rhaid i chi fod yn reit benderfynol ac amyneddgar, gan fynd allan i'r cystadlaethau gyda'r bwriad i ennill."