Y Cymro, bin Laden ac Afghanistan

  • Cyhoeddwyd
paul m

Ar 7 Hydref 2001 ymosododd awyrennau lluoedd arfog America a Phrydain ar dargedau yn Afghanistan. Roedd y cynghreiriaid yn tybio mai yno roedd Osama bin Laden, y dyn roedden nhw yn ei amau o gynllwynio ymosodiadau terfysgol 11 Medi, yn cael lloches.

'Chydig a wyddai'r Arlywydd George W Bush a'r Prif Weinidog Tony Blair wrth orchymyn y cyrchoedd awyr y byddai'r gwrthdaro yn parhau yn y wlad fynyddig tan Rhagfyr 2014.

Un sy'n 'nabod Afghanistan a'i phobl yn dda yw Yr Athro Paul Moorcraft. Yn wreiddiol o Gaerdydd a bellach yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Dadansoddi Polisi Tramor, dolen allanol, fe fu'n gohebu'n gyson o'r rhanbarth i'r BBC, Channel 4 a chylchgrawn TIME.

Gofynnodd Cymru Fyw iddo bwyso a mesur ymyrraeth y gwledydd gorllewinol yn Afghanistan bymtheg mlynedd ers ymosodiadau cyntaf America a Phrydain:

Dwy ganrif o frwydro

Mae'n bwysig nodi bod Prydain wedi bod yn rhyfela yn Afghanistan ers bron i ddwy ganrif. Roedd rhyfel rhwng y ddwy wlad rhwng 1839 a 1842, ac yna yn 1878 i 1880. Roedd rhyfel am dri mis hefyd yn 1919, felly rydym yn nodi 15 mlynedd ers dechrau'r pedwerydd rhyfel rhwng Prydain ac Afghanistan.

1984 oedd y tro cyntaf i mi weithio yn Afghanistan. Bryd rhynny roeddwn i'n gwneud rhaglen deledu i nodi 5 mlynedd ers i'r Undeb Sofietiaidd fynd i ryfel yno. Ar y pryd roedd tua 40 grŵp gwahanol o'r Mujahideen (rhyfelwyr Islamaidd), a oedd yn saethu at ei gilydd gymaint ag at y Rwsiaid. Y sefyllfa yma oedd y peth anodda' wnes i erioed fel gohebydd.

Roedden ni gyda'r Lluoedd Arbennig ac fe welais i ymladd yn agos iawn bob dydd roeddwn i yno, ac roedd y Rwsiaid yn defnyddio arfau mawr trwm ar bellter agos, ac hefyd machine guns, bomiau a hylif napalm.

Roedd y lle yn echrydus ac fe gollais i tua pedair stôn tra oeddwn i yno. Mi wnes i ddweud na fyswn i'n mynd nôl, ond fe wnes i. Mi es i nôl achos nes i ddysgu sut i aros yn ffit a sut i reoli fy ofnau.

Mae yna ddau beth dwi'n ei gasáu, sef cerdded yn bell a byw yn agos at bobl eraill - ond dyna beth rwyf wedi ei wneud tra'n mynd i lawer iawn o ryfeloedd, yn enwedig yn Afghanistan.

"Amhosib eu rheoli"

Roedd y Mujahideen yn ymladd yn ffyrnig, ond roedd yr Ymerodraeth Rwsiaidd mor bwerus a threfnus roeddwn i'n meddwl bod buddugoliaeth iddyn nhw yn anochel.

Ond fel y dysgodd Prydain, er bod ennill rhyfel yn Afghanistan yn gallu bod yn eitha' hawdd, mae'n amhosib eu rheoli nhw.

Ffynhonnell y llun, José Nicolas
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau o'r Mujahideen yn Afghanistan a oedd yn ymladd yn erbyn y Rwsiaid yn yr 1980au

Roeddwn i'n reit hoff o'r Mujahideen fel unigolion. Roedd 'na ryw galedni iddyn nhw a balchder, ac mae'n rhyfedd iawn i fod yn un o'r ychydig bobl o'r Gorllewin sydd wedi byw efo nhw. Dwi'n cyfri rhai o'r Jihadists yma fel rhai o fy ffrindiau da.

Mae rhaid chi ddeall bod y dynion yma'n genedlaetholwyr. Maen nhw'n ymladd dros eu gwlad, eu diwylliant a'u llwyth, ac mae'n siŵr weithiau dros eu Duw. Doedden nhw ddim yn licio tramorwyr yn dweud wrthyn nhw beth i'w wneud. Doedd ganddyn nhw ddim i'w golli, yn llythrennol, ond 'chydig o gnydau bwyd. Doedd 'na ddim hyd yn oed cadeiriau yn rhai o'u cartrefi.

Gadawodd Rwsiaid y wlad yn 1989 wedi degawd o reoli'r wlad, gan adael gwagle gafodd ei lenwi gan y Taliban.

Nes i gyfarfod aelodau o'r Taliban cwpl o weithiau, ond wnes i ddim treulio llawer o amser efo nhw fel gwnes i efo'r Mujahideen. Y tro diwethaf i mi ddod ar draws y Taliban, ro'n i gyda Lluoedd Arbennig Prydain wedi iddyn nhw ymosod ar Afghanistan, felly roedd yr amodau yn heriol.

Osama bin Laden

Fe fethais i â chael cyfweliad gyda Osama bin Laden yn yr 1980au, ond tra'n gweithio yn Sudan yn 1996 fe drefnais i gyfweliad gydag o.

Mi wnes i gyfarfod mentor iddo ond chefais i ddim y cyfle i gyfarfod bin Laden ei hun yn y diwedd gan fod yr Americanwyr yn rhoi pwysau ar lywodraeth Sudan i'w gicio mas o'r wlad.

Aeth bin Laden i Afghanistan, ond doedd dim rheolaeth arno o gwbl yno. Dyna lle adeiladodd y sylfaen ar gyfer Al-Qaeda a arweiniodd at yr ymosodiadau ar 11 Medi, 2001.

Disgrifiad o’r llun,

Osama bin Laden, a gafodd ei ladd gan yr Americanwyr yn 2011

Camgymeriad

Pan ymosododd lluoedd Prydain yn 2001, ro'n i'n gwybod mai methiant fyddai'r ymgyrch. Mae'r dynion 'ma yn Afghanistan yn genedlaetholwyr, sydd wastad yn ymladd jihad (ymhlith Mwslemiaid, mae'n golygu rhyfel yn erbyn anghredinwyr). Mi fydden nhw'n ymladd jihad yn erbyn ei gilydd!

Ro'n i'n credu y byddai hi wedi bod yn well gwneud cytuneb gyda'r Taliban achos mai nhw fyddai'n ennill - a mae nhw'n dal i ennill! Doedd dim posib curo'r Taliban achos roedd 'ffrind' Prydain, Pacistan, yn eu cefnogi ac yn rhoi arfau iddyn nhw. Erbyn hyn mae'r Taliban yn ymladd yn erbyn ISIS yn Afghanistan felly dyna reswm arall pam ddylai'r cynghreiriaid fod wedi gwneud cytundeb.

Doedd 'na ddim 'balans' o ran cefndir llwythi y gwleidyddion gafodd eu dewis i reoli Afghanistan wedi'r ymosodiadau. Roedd lot ohonyn nhw'n llwgr, yn enwedig o dan yr Arlywydd Karzai.

Methu dysgu gwersi

Doedd Prydain ddim wedi dysgu wedi tri rhyfel yn erbyn Afghanistan, ac mae'n anodd credu bod ein milwyr wedi cael eu hanfon yn ôl yno. Roedd o'n gamgymeriad mawr, ac mi wnaeth y cynghreiriaid ladd llawer o bobl a dinistro miloedd o fywydau.

Roedd 'na lawer yn deall bod yn rhaid ymateb i'r ymosodiadau terfysgol ar America ac roedd ambell i wlad Islamaidd yn deall hynny hefyd. Mi fedra i ddeall y ddadl dros fynd i mewn i Afghanistan, ond dim y ffordd wnaethon ni adael yn gyflym.

Disgrifiad o’r llun,

Paul (ar y chwith) gyda'i griw ffilmio yn agos i Kabul, Haf 1984

Mae milwyr Prydain wedi gadael Afghanistan ers dwy flynedd ac mae'r wlad mewn llanast. Mae'r fyddin swyddogol yn ddi-werth ac yn llwgr. Mi ddylai eu harweinwyr ddod i gytundeb gyda'r Taliban yn Kabul cyn gynted â phosib. Y wers yn Afghanistan ydy: gadewch lonydd iddyn nhw.

Dwi wedi bod gyda lluoedd arfog Prydain mewn llawer o ryfeloedd ac mae gen i gymaint o barch at y gwaith anodd maen nhw'n ei wneud.

Mae'r fyddin yn gweithredu dan amodau anodd yn ddiweddar a dwi'n ei gweld hi'n drist eu bod nhw wedi cael eu cywilyddio yn yr ymgyrchoedd yn Afghanistan ac Irac dros y pymtheg mlynedd diwethaf.