Brwydr yn erbyn anfon dyn 19 oed nôl i Afghanistan
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Gaerdydd yn brwydro i geisio atal ei chariad 19 oed rhag cael ei anfon yn ôl i Afghanistan.
Mae disgwyl y bydd Bashir Nadir, sydd wedi byw yng Nghaerdydd ers deng mlynedd, yn cael ei alltudio o Brydain ddydd Llun.
Yn ôl ei gariad Nicole Cooper, 24, mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud ei fod bellach yn saff iddo ddychwelyd adref gan ei fod dros 18, ac mae hi wedi lansio deiseb yn galw ar yr Ysgrifennydd Cartref i ailystyried.
Mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud nad ydyn nhw'n gwneud sylw ar achosion unigol.
'Dim cysylltiadau'
Dywedodd Miss Cooper bod ei chariad wedi dianc o Afghanistan pan oedd yn 10 oed ar ôl i'w dad gael ei ladd gan y Taliban. Fe wnaeth ei fam werthu tir y teulu er mwyn talu iddo gael ei smyglo i Brydain, ble cafodd le i fyw gyda theulu maeth yng Nghaerdydd.
Mae Mr Nadir, sydd yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Y Fair Ddihalog, mewn canolfan gadw yn Sir Rhydychen ar hyn o bryd.
"Mae e'n torri ei galon, wedi'i ypsetio, mae fel bachgen bach ar goll. Dyw e ddim fel fe o gwbl," meddai Miss Cooper.
"Dyw e erioed wedi cael teulu fel sydd ganddo ar hyn o bryd. Mae'n torri calonnau pawb fod yn rhaid iddo fe fynd drwy hyn."
Dywedodd nad oedd ganddo "unrhyw gysylltiadau" yn Afghanistan ac nad oedd wedi siarad ag unrhyw un yno ers iddo adael.
Mae'r teulu yn bwriadu apelio'r penderfyniad ddydd Llun, ac mae'r gantores Cerys Matthews ymysg y rheiny sydd wedi cefnogi'r ddeiseb.
Dywedodd Aelod Seneddol Canol Caerdydd, Jo Stevens ei bod hi bellach yn gweithio ar ei achos ac y byddai ei fywyd "mewn perygl" petai'n dychwelyd i Afghanistan oherwydd bod ymladd yn parhau yno.
"Mae Bashir yn 19 oed ac wedi tyfu lan yn y diwylliant gorllewinol yng Nghaerdydd, mae e yn y coleg yma ac mae ganddo gefnogaeth rhwydwaith agos o bobl sef ei deulu Cymreig," meddai'r AS.
Dywedodd cyfreithiwr Mr Nadir, Vinita Templeton: "I rywun sydd ddim yn siarad Afghan, sydd methu darllen yr iaith, sydd heb gyswllt uniongyrchol â'i deulu [yn Afghanistan], fe fyddai mewn sefyllfa fregus iawn."