Cyn-AS yn gadael y Ceidwadwyr ond am sefyll am y Senedd

Sarah AthertonFfynhonnell y llun, Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Disgrifiad o’r llun,

Sarah Atherton oedd aelod Wrecsam yn San Steffan rhwng 2019 a 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol wedi gadael y blaid gan ddweud ei bod yn "impotent", ac y byddai'n hoffi sefyll ar gyfer etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf.

Fe ddywedodd Sarah Atherton, a gollodd sedd Wrecsam yn yr etholiad cyffredinol fis Gorffennaf, nad ydy'r Ceidwadwyr yn "gydnaws gyda'i gwerthoedd hi na'i hideoleg".

Ond dyw hi heb gadarnhau dros ba blaid y byddai hi'n sefyll ar gyfer etholiadau'r Senedd.

Doedd y Ceidwadwyr ddim am wneud sylw.

Mae Ms Atherton yn mynnu bod ganddi "dal llawer i'w roi" ac yn gobeithio parhau â'i gyrfa wleidyddol ym Mae Caerdydd.

Roedd hi'n Aelod Seneddol Wrecsam rhwng 2019 a 2024, ac roedd hi'n weinidog gyda'r Llywodraeth Geidwadol am gyfnod byr yn 2022.

Hi oedd yr aelod Ceidwadol cyntaf dros etholaeth Wrecsam ers ei chreu yn 1918.

Y llynedd, dywedodd Ms Atherton wrth BBC Cymru y dylai'r Ceidwadwyr "groesawu" arweinydd Reform UK Nigel Farage.

Fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru ar y pryd, Andrew RT Davies, feirniadu ei sylwadau.

'Heb ymaelodi â Reform UK'

Fe ddywedodd Ms Atherton wrth Newyddion S4C nad yw hi wedi ymaelodi â Reform UK.

Ychwanegodd nad oedd hi'n gallu sefyll dros y Ceidwadwyr, gan gyfeirio at broses ddethol y blaid sy'n rhoi blaenoriaeth i aelodau presennol o'r Senedd.

Mae etholaethau Cymru wedi eu hail-lunio cyn etholiad y Senedd fis Mai nesaf, gydag 16 o etholaethau newydd yn ethol chwe aelod yr un.

Fis diwethaf, fe wnaeth Aelod o Senedd Cymru, Laura Anne Jones adael y blaid Geidwadol i ymuno â Reform.

Hi felly yw aelod cyntaf y blaid yn y Senedd, ac mae cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi ymuno â Reform hefyd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.