'Dylai Zip World wneud mwy i gefnogi staff a'r economi cyn derbyn £6m'

Zip World sy'n gweithredu llinell sip gyflymaf y byd yn Chwarel Penrhyn, Bethesda
- Cyhoeddwyd
Dylai un o gwmnïau twristiaeth mwyaf Cymru ddim derbyn arian cyhoeddus tra'n gwneud defnydd eang o gytundebau dim oriau, yn ôl cynghorydd sir yn y gogledd.
Mae o leiaf 85% o staff Zip World ym Methesda a Blaenau Ffestiniog ar gytundebau sydd ddim yn cynnig oriau sefydlog, yn ôl gwaith ymchwil newydd.
Mae'r cwmni yn y broses o dderbyn grant gwerth o leiaf £6m mewn arian cyhoeddus ond mae yna alw arnyn nhw i wneud mwy i gefnogi gweithwyr a'r economi leol.
Doedd Zip World ddim am ymateb i gais am sylw.
'Elw mawr ddim i'w weld yn y cyflogau'
Yn ôl yr ymchwil gan Foundation Economy Research, mae o leiaf 85% o'r gweithlu ar eu safle Llechwedd a Phenrhyn, lle mae rhai o'u prif atyniadau, ar gytundebau dim oriau.
Mae'r cytundebau hyn yn rhoi hyblygrwydd i gwmnïau beidio ymrwymo i oriau penodol ac yn ôl nifer yn cynnig ansefydlogrwydd i gyflogai.
Mae'r ymchwil hefyd yn codi pryderon am gyflogau gweithwyr.
Er eu bod "ychydig" yn uwch na'r isafswm cyflog, meddai'r ymchwil, dydyn nhw ddim yn cynnig cyflog teg o gymharu â busnesau tebyg eu maint fel Bluestone a Portmeirion.

Dywedodd y Cynghorydd Beca Roberts fod y sefyllfa yn tanseilio cymunedau Cymraeg yr ardal
Yn ôl y Cynghorydd Beca Roberts o Gyngor Gwynedd mae'n poeni nad yw llwyddiant y cwmni - sydd werth tua £100m - i'w weld yn lleol.
"Be mae hyn yn edrych fel i fi ydy bod Zip World yn symud y risg i ffwrdd o nhw a rhoi'r risg ar bobl leol," meddai.
"Mae hynny'n golygu bod pobl leol ddim yn gwybod faint o bres maen nhw'n ei gael bob wythnos, faint o oriau fydd nhw'n gweithio ac mae hynny'n cael effaith andwyol ar gymuned leol."
Honnodd fod y cwmni yn gwneud "lot fawr o elw" ond nad ydy'r elw yna "yn cael ei weld yng nghyflogau pobl Zip World".
Cwestiynu rhoi arian cyhoeddus
Mae'r ymchwil hefyd yn codi pryderon bod Zip World yn disgwyl derbyn cyllid cyhoeddus o £6.2m gan un o gronfeydd Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru.
Nod y cyllid ydy hybu twristiaeth gynaliadwy gan ddenu rhagor o ymwelwyr mewn modd sy'n "ystyrlon i gymunedau lleol gan wneud y mwyaf o'r buddion cymdeithasol, economaidd a diwylliannol".
Mae'r Cynghorydd Beca Roberts yn dweud na ddylai'r cwmni dderbyn cyllid o'r fath tan y bydd cynnydd mewn cyflogau ac amodau gwell.
Mae Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru wedi cael cais am ymateb.

Mae'n rhaid i gwmni roi "budd yn ôl i'r gymuned" os ydyn nhw'n derbyn arian cyhoeddus, meddai Dr Edward Thomas Jones
Yn ôl gwefan Zip World fe ddangosodd adroddiad annibynnol Twristiaeth Gogledd Cymru yn 2024 bod y cwmni wedi cyfrannu £941m i economi Cymru dros y ddegawd ddiwethaf.
Ond yn ôl yr economegydd Dr Edward Thomas Jones os ydy cwmni yn derbyn arian cyhoeddus yna mae'n "rhaid bod nhw'n rhoi budd yn ôl i'r gymuned".
"Mae ond yn iawn bod y gymuned yn elwa o'r math yma o fenter," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad ydyn nhw'n "cefnogi'r defnydd annheg o gontractau dim oriau ac eisiau gweld cyflogwyr yn cynnig oriau wedi eu gwarantu lle bo modd".
Doedd Zip World ddim am ymateb i gais am sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr
- Cyhoeddwyd27 Ionawr
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2024