Haneru timau rygbi Cymru yw'r cam 'radical' i achub y gamp - URC

Rhanbarthau
  • Cyhoeddwyd

Torri nifer y clybiau rygbi proffesiynol o bedwar i ddau ydy'r "cam radical" sydd ei angen i achub y gêm yng Nghymru, yn ôl Undeb Rygbi Cymru (URC).

Mae'r corff llywodraethu wedi datgelu ei gynllun ar gyfer dyfodol y gêm elitaidd, sy'n peryglu dyfodol y Dreigiau, Caerdydd, y Gweilch a'r Scarlets.

"Mae newid yn anodd, ac mae hyn yn mynd i fod yn anodd, ond rwy'n credu y bydd yn ein harwain i le gwell," meddai prif weithredwr URC, Abi Tierney.

Mae URC wedi cyflwyno pedwar model posib, ac wedi cynnig "system orau" o ddau glwb proffesiynol, yn cynnwys timau dynion a menywod, gyda chyllid cyfartal.

Beth yw'r dewisiadau?

  • Pedwar clwb proffesiynol gyda chyllid anghyfartal (Model A)

  • Tri chlwb proffesiynol gyda chyllid cyfartal (Model B)

  • Tri chlwb proffesiynol gyda chyllid anghyfartal (Model C)

  • Dau glwb proffesiynol gyda chyllid cyfartal (Model D)

Nid yw URC wedi nodi eu lleoliadau dewisol ar gyfer clybiau nac enwau, ac maen nhw'n mynnu nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud eto.

(O'r chwith i'r dde) cadeirydd URC Richard Collier-Keywood, cyfarwyddwr rygbi a pherfformiad elitaidd URC Dave Reddin ac prif weithredwr URC Abi Tierney
Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wynebodd penaethiaid Undeb Rygbi Cymru y wasg yn Stadiwm Principality ddydd Mercher

Yn siarad ddydd Mercher, dywedodd Abi Tierney bod yr undeb "yn glir nad yw'r model rygbi presennol yng Nghymru bellach yn cyflawni'r hyn sydd ei angen ar ein gêm".

"Dyna pam rydym yn gwahodd barn ar y cyfleoedd ar gyfer newidiadau rydym wedi'u cyflwyno."

Daw'r datblygiad wrth i'r Gweilch gynllunio i ailddatblygu stadiwm San Helen yn Abertawe ar gyfer tymor 2026-27 tra bod y Scarlets wedi cyhoeddi buddsoddwyr arfaethedig newydd.

Dywedodd perchnogion y Dreigiau yn gynharach yr wythnos hon fod yn rhaid i rygbi elitaidd barhau yng Ngwent, tra bod Caerdydd ar hyn o bryd yn eiddo i'r corff llywodraethu.

Prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel, prif hyfforddwr y Gweilch Mark Jones, prif hyfforddwr Caerdydd Matt Sherratt a phrif hyfforddwr y Dreigiau Filo TiatiaFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Bydd hyfforddwyr y rhanbarthau'n chwarae eu gemau cyntaf yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn ystod y cyfnod ymgynghori

Bydd URC yn dechrau ymgynghoriad ffurfiol ar 1 Medi – y dyddiad y bydd prif hyfforddwr newydd Cymru, Steve Tandy, yn dechrau'n swyddogol.

Mae cyfarfodydd eisoes wedi'u trefnu gyda'r pedwar clwb, Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (WRPA), cefnogwyr, clybiau sy'n aelodau URC a chynrychiolwyr o'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Wedi i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben bydd argymhellion yn cael eu hanfon at fwrdd URC ganol mis Hydref, ac mae disgwyl penderfyniad terfynol erbyn diwedd y mis hwnnw.

"Rwy'n cydnabod y boen a'r dicter y byddant yn teimlo ond mae'r holl gefnogwyr rwy'n siarad â nhw, ac rwy'n siarad â llawer, yn cytuno bod angen i ni wneud rhywbeth hollol wahanol," meddai Tierney.

"Rydym wedi cyflwyno cynnig i gael ei saethu ato – saethwch ato os gwelwch yn dda, yn adeiladol, oherwydd ni allaf gofio rhywun eto sydd ddim wedi dweud bod angen i ni wneud rhywbeth gwahanol neu newid."

'Dychmygwch ddyfodol hollol wahanol'

Yn ogystal â'r cynllun sy'n cael ei ffafrio, mae URC wedi cyflwyno tri chynnig arall.

Model A yw pedwar clwb gyda chyllid anghyfartal – dau dîm elitaidd gyda chyllideb o £6.7m, a dau dîm datblygu ar £5.2m.

Byddai Modelau B a C yn gweld pedwar yn cael eu torri i lawr i dri, gyda B yn cynnwys cyllid cyfartal o £6.9m a C yn cynnwys dau glwb elitaidd ar £6.9m a chlwb datblygu ar £5.4m.

"Rydym wedi cyflwyno gweledigaeth glir ynghylch ble gallai'r dyfodol fod," meddai cyfarwyddwr rygbi a pherfformiad elitaidd URC, Dave Reddin.

"Rydym yn gofyn i bobl adael gafael ar y gorffennol a'r presennol a dychmygu dyfodol hollol wahanol."

Byddai'r modelau newydd yn cynnwys URC yn ariannu'r holl weithrediadau rygbi, gyda buddsoddwyr preifat yn gyfrifol am weithrediadau masnachol.

Beth yw'r heriau?

Er y cynlluniau newydd, mae URC yn derbyn bod cytundebau eisoes yn bodoli gyda'r rhanbarthau.

"Mae gennym ni gontractau gyda'r clybiau o'r enw'r Cytundeb Rygbi Proffesiynol ac rydym wedi ei gwneud hi'n glir iawn i'r clybiau y byddwn ni'n cadw at ein rhwymedigaethau yn y cytundebau hynny," meddai'r cadeirydd URC, Richard Collier-Keywood.

Llofnododd y Dreigiau a Chaerdydd y cytundeb newydd ym mis Mai, ond mae'r Scarlets a'r Gweilch yn parhau ar yr hen fersiwn ar ôl anghytuno ynghylch rheolaeth URC o glwb y brifddinas.

Mae'r corff llywodraethu yn credu bod y broses ymgynghori yn delio ag unrhyw her bosibl o dan gyfraith cystadleuaeth, tra eu bod nhw'n credu bod eu tryloywder fel bwrdd yn delio ag unrhyw faterion ynghylch "camymddygiad neu annhegwch".

"Rydym ni'n teimlo'n hyderus ynghylch y sefyllfa gyfreithiol," meddai Collier-Keywood.

Rygbi CymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Byddai'r model mae URC yn ei ffafrio yn arwain at lai o gyfleoedd i chwaraewyr gwrywaidd proffesiynol.

Mae'r corff llywodraethu yn obeithiol na fydd argyfwng 2023 yn cael ei ailadrodd - a welodd chwaraewyr tîm cenedlaethol Cymru yn bygwth streic cyn gêm y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr.

Mae tymor y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn dechrau yn ystod y broses ymgynghori, ac mae disgwyl penderfyniad terfynol cyn gemau rhyngwladol yr hydref.

"Rydym am ymgysylltu'n agos â'r chwaraewyr fel eu bod yn deall y persbectif a'r cyfle," ychwanegodd Reddin.

"Byddwn yn gobeithio, ac mae'r arwyddion cynnar yn gadarnhaol, y bydd pobl wir eisiau gwrando a chymryd rhan yn y ffordd y gall system wych yng Nghymru edrych.

"Rydym am weithio'n agos iawn a chyfathrebu â nhw oherwydd byddai streic yn drychineb i bawb, profais hynny gyda rygbi Lloegr flynyddoedd lawer yn ôl, ac nid wyf yn credu y byddai'n symud ein hagenda ymlaen.

"Gofynnodd y dynion gwestiynau deallus iawn neithiwr, roeddent yn ymgysylltu'n fawr â'r broses ac yn deall y darlun mawr. Gobeithio y bydd hynny'n mynd â ni i le da."

Beth yw'r cynlluniau ar gyfer gêm y menywod?

Prif hyfforddwr menywod Cymru Sean Lynn
Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae menywod Cymru a'u hyfforddwr Sean Lynn yn dechrau eu hymgyrch Cwpan y Byd yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn

Ar hyn o bryd mae gan Undeb Rygbi Cymru ddau dîm yn yr Her Geltaidd – Gwalia Lightning a Brynthon Thunder – ac mae proses dendro ddiweddar wedi denu diddordeb gan y pedwar clwb proffesiynol presennol.

"Mae diwygio strwythur rygbi Cymru yn creu cyfle i gyflymu twf a llwyddiant yng ngêm y menywod yng Nghymru trwy fuddsoddiad sylweddol," meddai'r ddogfen ymgynghori.

Byddai'r cynllun yn darparu pwll o tua 80 o chwaraewyr domestig, yn ogystal â'r rhai sy'n chwarae yn Lloegr, ar gyfer yr hyfforddwyr cenedlaethol.