Dysgu Cymraeg er mwyn cael 'un iaith yn fwy'

Patricia Oliver ym MecsicoFfynhonnell y llun, Patricia Oliver
  • Cyhoeddwyd

Does gan Patricia Oliver ddim cysylltiad â Chymru o gwbl. Ond, mae hi wedi dysgu Cymraeg ar ôl gweld rhywun yn siarad Cymraeg mewn fideo ar YouTube yn 2020, a meddwl bod yr iaith yn brydferth.

Ond pam mynd ati i ddysgu Cymraeg a hithau o Sbaen ac yn byw yn Mecsico, heb reswm penodol i fod angen siarad Cymraeg?

Wrth siarad â Nia Parry ar BBC Radio Cymru eglurodd Patricia mai am bod Cymraeg yn "un iaith y fwy" i'w siarad y penderfynodd ddysgu. Mae Patricia yn siarad Sbaeneg wrth gwrs, ond hefyd wedi astudio Saesneg yn y brifysgol ac wedi dysgu Portiwgaleg ac Almaeneg.

Er hynny, dyw Patricia ddim yn siŵr os yw cael gafael ar nifer o ieithoedd eraill yn help wrth ddysgu Cymraeg.

"Mae tipyn bach yn hawdd, ond mae tipyn bach yn anodd ar yr un pryd hefyd achos mae Cymraeg yn iaith wahanol iawn i Sbaeneg neu Saesneg neu Almaeneg a Portiwgaleg."

Patricia OliverFfynhonnell y llun, Patricia Oliver
Disgrifiad o’r llun,

Patricia yn ei chrys pêl-droed Cymru!

Bu Patricia yn athrawes ieithoedd ac mae hi wedi teithio o gwmpas y byd yn dysgu ieithoedd. Erbyn hyn mae hi'n ysgrifennu llyfrau i blant oed ysgol gynradd i ddysgu Saesneg.

Dechreuodd taith Patricia gyda'r Gymraeg yn debyg iawn i un nifer o siaradwyr Cymraeg newydd, a hynny gyda'r app Duolingo, ac ymuno â rhwydweithiau cymdeithasol i gysylltu â phobl eraill sy'n dysgu.

Roedd cerddoriaeth hefyd yn help i glywed yr iaith yn rheolaidd. Dywedodd ei bod hi'n hoff iawn o Mared Williams.

"Mis ar ôl dechre dysgu Cymraeg wnes i ddarganfod cerddoriaeth Mared Williams, a dwi'n cofio wnes i wrando ar Mared Williams bob dydd."

Patricia o flaen castell CaernarfonFfynhonnell y llun, Patricia Oliver
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd fis yng Nghaernarfon yn gynharach yn yr haf

Symudodd ymlaen at ddarllen llyfrau'r gyfres Amdani, sydd wedi'u graddoli'n arbennig ar gyfer dysgwyr. Ond buan y sylweddolodd bod ei darllen a'i hysgrifennu'n well na'i sgwrsio Cymraeg.

"'Nes i sylwi [roeddwn] i'n gallu darllen lefel A2, ond 'nes i ddim gallu siarad dim byd. Felly dwi wedi bod yn cael sgwrs wythnosol ar-lein. Shout out to Owen ac Emyr – chi yw'r gorau!"

Mae'n dweud mai diolch i'r sgyrsiau rheiny gyda ffrindiau newydd o Gymru y daeth hi'n siaradwraig mwy rhugl.

Patricia yn gwirfoddoli yn y Tŷ GwerinFfynhonnell y llun, Patricia Oliver
Disgrifiad o’r llun,

Gwirfoddoli yn y Tŷ Gwerin

Daeth Patricia i Gymru am y tro cyntaf yr haf hwn. Treuliodd fis yng Nghaernarfon cyn mentro i'r Eisteddfod Genedlaethol i wirfoddoli "yn y Pafiliwn, y Tŷ Gwerin... croesawu pobl i mewn y pabell ac helpu efo gwybodaeth hefyd".

Cafodd hi fodd i fyw yn y Brifwyl gan ddweud nad oedd hi'n gallu dewis uchafbwynt ond bod "cyfarfod ffrindiau, gwneud ffrindiau newydd, dysgu am gerddoriaeth newydd, gwrando ar y gerddoriaeth a'r corau hefyd" wedi bod yn brofiad gwych.

Cafodd gyfle i weld Mared Williams yn perfformio yn yr Eisteddfod, ac yno hefyd fe ddarganfyddodd Bob Delyn a'r Ebillion. Roedd mynd i'r Eisteddfod yn "brofiad bythgofiadwy".

Patricia yn yr EisteddfodFfynhonnell y llun, Patricia Oliver
Disgrifiad o’r llun,

Gydag arwydd eiconig yr Eisteddfod

Felly beth yw hi am Gymru sydd wedi ennill lle yn ei chalon?

"Ar y dechre, 'nes i syrthio mewn cariad gyda sŵn yr iaith, ond nes ymlaen wrth siarad gyda phobl a rŵan, wrth ymweld â Chymru dwi'n jyst syrthio mewn cariad gyda phobl o Gymru. Mae nhw'n garedig iawn a hael iawn."

Ar hyn o bryd mae Patricia yn treulio amser yng Nghaerdydd lle mae hi'n gobeithio ymweld â Sain Ffagan, Y Senedd, Castell Caerffili a'r Amgueddfa Genedlaethol.

Ym mis Medi, fe fydd hi'n dychwelyd i Fecsico ond nid dyna ddiwedd ei thaith Gymraeg.

Bydd hi'n dechrau cwrs Cymraeg arall er mwyn parhau i wella. I'w helpu efo'i Chymraeg mae'n darllen llyfrau Cymraeg, yn gwrando ar bodlediadau, ac yn gwylio S4C.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig