Y Gymraeg ar University Challenge

Tîm Prifysgol Caerdydd ar University ChallengeFfynhonnell y llun, BBC / Lifted Entertainment
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Prifysgol Caerdydd ar University Challenge

  • Cyhoeddwyd

Ydych chi'n gwylio'r rhaglen gwis boblogaidd University Challenge pob nos Lun?

Cafodd ei darlledu gyntaf yn 1962, ac mae'n un o gyfresi hynaf y BBC. Bamber Gascgoine oedd y cwis-feistr gwreiddiol a fu wrthi tan 1987 cyn i Jeremy Paxman gymryd y llyw. Mae'r rhaglen bellach yn cael ei chyflwyno gan Amol Rajan, sydd hefyd yn cyflwyno'r rhaglen Today ar BBC Radio 4.

Os oeddech chi'n gwylio wythnos yma fe fyddwch wedi clywed y Gymraeg yn cael ei siarad ar y rhaglen, a hynny gan fyfyriwr o Wrecsam o'r enw Harri Slaughter (ynghŷd a'i gyd-gystadleuydd Aeron Wheel).

Gwyliwch y fideo isod:

Disgrifiad,

Myfyrwyr yn defnyddio’r Gymraeg ar raglen University Challenge wythnos yma

Yn anffodus, colli yn erbyn tîm Prifysgol Bryste fu hanes Caerdydd nos Lun o 180 pwynt i 115 mewn gêm gystadleuol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig