Rhentu Doeth: Pryder am landlordiaid anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd
Gallai dros 13,000 o landlordiaid preifat fod yn rhentu'n anghyfreithlon wedi i gynllun Rhentu Doeth ddod i rym yng Nghymru.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob landlord gofrestru ar y cynllun erbyn 23 Tachwedd.
Erbyn i'r amser ddod i ben roedd 89,130 o gyfrifon wedi cael eu creu gan landlordiaid, gyda 64,248 o gofrestriadau trwydded wedi'u hanfon.
Mae 13,208 o geisiadau wedi cael eu dechrau ond heb eu cwblhau eto.
Fe gyfaddefodd yr Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant yr wythnos hon bod y system wedi wynebu problemau oedi.
Mae'n costio £33.50 i bob landlord gofrestru ar gyfer y cynllun dros y we, neu £80.50 drwy ffurflenni papur - waeth faint o dai sydd ganddyn nhw.
Ond does dim rhaid i adeiladau a thai myfyrwyr neu ar gyfer pwrpas masnachol neu amaethyddol gael eu cofrestru.
Mae Rhentu Doeth Cymru eisoes wedi rhybuddio bod unrhyw landlordiaid sydd heb gofrestru yn wynebu dirwy.
"Yn ôl ffigurau swyddogol mae tua 208,000 o dai yn cael eu rhentu'n breifat yng Nghymru, ond fydd rhain i gyd ddim yn gorfod cael eu cofrestru," meddai datganiad gan Rhentu Doeth Cymru.
"Mae'r ffaith bod Rhentu Doeth Cymru eisoes wedi cofrestru 126,154 o dai yn golygu eu bod wedi dal dros hanner y stoc (tua 62%).
"Fe fydd pwerau gorfodaeth nawr yn cael eu defnyddio mewn modd synhwyrol a chytbwys."