Y Frenhines Elizabeth II: Ei bywyd mewn lluniau
- Cyhoeddwyd
Mae Palas Buckingham wedi cyhoeddi bod y Frenhines Elizabeth II wedi marw.
Bu farw yn dawel yn Balmoral ddydd Iau, meddai'r Palas.
Dyma olwg ar ei bywyd mewn lluniau.
1926

Cafodd Elizabeth ei geni ar 21 Ebrill 1926 yn Llundain, yn blentyn cyntaf i Albert, Dug Efrog - yn ddiweddarach y Brenin George VI - a'i wraig yr Arglwyddes Elizabeth Bowes-Lyon
1938

Elizabeth (dde) a'r teulu Brenhinol yn 1938, flwyddyn cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd
1947

Ar 20 Tachwedd 1947 fe briododd y Dywysoges Elizabeth y Tywysog Philip o Groeg, yn Abaty Westminster
1948

Cafodd mab cyntaf y cwpl, y Tywysog Charles, ei eni yn 1948
1953

Cafodd ei choroni yn 1953 - digwyddiad a gafodd ei wylio gan filiynau dros y byd ar y teledu
1961

Roedd y Frenhines a Charles wrth eu boddau yn marchogaeth, ac roedd ceffylau yn un o ddiddordebau mawr y Frenhines drwy gydol ei bywyd
1965

Y teulu Brenhinol yn ymgynnull i dynnu llun ar ben-blwydd y Frenhines yn 39. Fe gafodd y Tywysog Edward ei eni flwyddyn ynghynt
1969

Y Tywysog Charles yn cael ei arwisgo fel Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon
1973

Roedd y Frenhines wrth ei bodd gyda'i chŵn corgi
1978

Roedd amaeth a materion cefn gwlad yn agos at galon y Frenhines
1984

Y Frenhines mewn llun swyddogol gyda'r Fam Frenhines, y Tywysogion William a Harry, a Thywysoges a Thywysog Cymru yn 1984
1995

Yn cyfarfod arlywydd De Affrica, Nelson Mandela, yn 1995 ar ddechrau ei thaith gyntaf â'r wlad ers 1947
2002

Y Frenhines Elizabeth yn dathlu ei Jiwbilî Aur yn 2002 - roedd jiwbilî ddiemwnt i ddilyn yn 2012, a phlatinwm yn 2022
2006

Y Frenhines ym Mhalas Buckingham yn darllen rhai o'r cardiau a gafodd eu hanfon ati ar ei phen-blwydd yn 80
2011

Y teulu brenhinol ar falconi Palas Buckingham i ddathlu priodas Dug a Duges Caergrawnt
2016

Fe drodd y Frenhines yn 90 oed yn 2016, flwyddyn wedi iddi basio'r Frenhines Victoria fel y person i deyrnasu hiraf yn hanes brenhiniaeth Prydain
2016

Yn cyfarfod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ym Mhalas Buckingham ym mis Rhagfyr 2016
2021

Bu'n rhaid i'r Frenhines eistedd ar ei phen ei hun yn angladd Dug Caeredin yn 2021 oherwydd cyfyngiadau Covid
2021

Ym mis Hydref 2021 oedd ymweliad olaf y Frenhines â Chymru, ar gyfer agoriad swyddogol y Senedd
2022

Ei hymddangosiad olaf fel Brenhines oedd cyfarfod Liz Truss i'w gwneud yn brif weinidog ar 6 Medi 2022
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022