Pryder am ddiffyg gwasanaethau i gleifion arthritis
- Cyhoeddwyd
Mae tair cymdeithas arthritis wedi dweud wrth BBC Cymru bod ganddyn nhw bryderon am wasanaethau i gleifion yng Nghymru.
Fe ddangosodd y ffigyrau diweddaraf mai dim ond 22% o gleifion yng Nghymru oedd ag arthritis gwynegol gafodd eu gweld o fewn tair wythnos, o'i gymharu â chyfartaledd o 37% ar draws y DU.
Maen nhw hefyd yn dweud bod nifer y cleifion sy'n ymweld ag adrannau rhewmatoleg 66% yn uwch ers 2012, ond nad oes digon o adnoddau wedi bod ar gael i ddelio â'r cynnydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "asesu, adnabod a darparu gofal parhaus [i gleifion] mor lleol a mor sydyn â phosib", gan ychwanegu y bydd 'na adolygiad i'r drefn yn ystod 2017.
Cyfnod 12 wythnos
"Mae'r canlyniadau yma'n bryderus ac yn dangos bod angen i'r GIG yng Nghymru a'r byrddau iechyd lleol gefnogi gwasanaethau rhewmatoleg er mwyn ateb y safonau uchel ar gyfer trin arthritis gwynegol," meddai Rich Flowerdew, llysgennad Cymru ar gyfer Cymdeithas Genedlaethol Arthritis Gwynegol (NRAS).
"Mae'n amlwg nad yw cleifion yn cael eu gweld yn ddigon aml o fewn y cyfnod o 12 wythnos ar gyfer diagnosis.
"Os ydi cleifion yn cael eu gweld o fewn y cyfnod yma, mae'r canlyniadau tymor hir yn llawer gwell."
Byw gyda'r cyflwr
Mae Kelly O'Keefe wedi bod yn byw â chrudcymalau ers yn blentyn, ac roedd hynny'n golygu tripiau cyson i ysbyty Alder Hey yn Lerpwl.
"Roedd hi'n anodd i drio ymdopi hefo hynny pan ro'n i'n ifanc, cael diagnosis pan o'n i'n saith. Ro'n i 'di gallu gwneud pob dim am saith mlynedd, gwneud pob peth, ac wedyn ddaru fo i gyd fynd," esboniodd.
"Roedd hynny'n lot mwy anodd na ddim gwybod beth o'n i'n methu.
"Roedd dad yn gorfod cymryd diwrnod ffwrdd o'r gwaith [i fynd â hi i Alder Hey], ac o'n i yna wyth wythnos, naw wythnos os oeddwn i'n really sâl, ac o'dd mam yn gorfod aros efo fi.
"Hyd yn oed rŵan, mae trafeulio'n anodd i fi. Ar ôl dod adra mae'n cymryd fi tua tri diwrnod i ddod dros y teithio, mae joints fi i gyd 'di chwyddo. Dwi ddim yn gwybod pam, a mae o hyd 'di bod fel 'na."
Yn ogystal â'r NRAS, mae Gofal Arthritis Cymru a'r Gymdeithas Rhewmatoleg Brydeinig hefyd wedi codi pryderon am wasanaethau pediatrig.
Cymru yw'r unig un o wledydd y DU sydd heb ganolfan arbenigol ar gyfer rhewmatoleg i blant, ac mae'r tair sefydliad wedi galw am wasanaeth i gael ei sefydlu yn Ne Cymru.
"Dw i'n gweithio efo'r plant ifanc, maen nhw eisiau cael eu gweld yng Nghymru, maen nhw eisiau cael eu trin gyda phobl yng Nghymru a dim gorfod trafeilio," meddai Nia Laderle o elusen Gofal Arthiris.
"Pan maen nhw'n mynd i Loegr dydyn nhw ddim yn 'nabod neb arall."
Dywedodd un ymgynghorydd gwynegol, Dr Rhian Goodfellow, wrth Newyddion 9 ei bod hi'n bwysig bod y cyhoedd hefyd yn gweld beth allen nhw ei wneud i leihau risg ac edrych ar ôl eu hunain.
"Mae'n rhaid i chi gofio bod y cymalau yn rhan o'ch iechyd chi hefyd," meddai.
"Mae rhai pethau mae pawb yn gallu ei wneud. Mae'n rhaid i ni edrych os yw pobl dros eu pwysau, beth yw eu deiet, beth maen nhw'n wneud yn eu bywyd pob dydd.
"Mae hynny'n bwysig iawn, bod rhaid i ni edrych ar y claf yn gyfan gwbl i weld os oes rhywbeth allen nhw ei wneud i helpu'u hunain, yn enwedig gan bod gennym ni genhedlaeth o bobl sy'n hŷn, ac mae arthritis yn cynyddu wrth i bobl fynd yn hŷn."
Gofal 'mor sydyn â phosib'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae byrddau iechyd yng Nghymru yn gyfrifol am ateb gofynion iechyd pobl yn eu hardaloedd nhw sydd yn dioddef o gyflyrau cyhyrysgerbydol gan gynnwys arthritis gwynegol.
"Drwy'r cynllun gofal cynradd cenedlaethol a'r cyfarwyddyd comisiynu ar gyfer arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol, rydyn ni'n parhau i godi ymwybyddiaeth a chefnogi pobl wrth leihau risg o'r cyflyrau yma, a phan maen nhw'n digwydd, eu hasesu, adnabod a darparu gofal parhaus mor lleol a mor sydyn â phosib.
"Bydd y cyfarwyddyd yn cael ei adolygu'r flwyddyn nesaf ac fe fydd yn ystyried gwasanaethau rhewmatoleg i oedolion a phlant."