Chwilio am berthnasau côr o'r Rhyfel Byd Cyntaf

  • Cyhoeddwyd
SommeFfynhonnell y llun, IWM
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd aelodau Côr 17eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig eu lladd yn y Rhyfel Mawr

Mae swyddogion yr Eisteddfod Genedlaethol yn chwilio am deuluoedd aelodau o gôr y cafodd pob un o'r aelodau eu lladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Nod yr Eisteddfod yw cynnal gweithgarwch er mwyn cofio am eu haberth yn ystod yr Eisteddfod ym Môn eleni.

Daeth Côr 17eg Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig yn ail yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1915 ond erbyn Eisteddfod Penbedw - Eisteddfod y Gadair Ddu - yn 1917 roedd pob un aelod ac eithrio'r arweinydd wedi eu lladd.

Yn Eisteddfod Penbedw cynhaliwyd seremoni arbennig i anrhydeddu arweinydd y côr, yr Is-gorporal Samuel Evans, gafodd ei glwyfo yn yr ymladd.

Mae Eisteddfod Penbedw yn cael ei chofio fel Eisteddfod y Gadair Du am mai Hedd Wyn enillodd y gystadleuaeth, ond iddo gael ei ladd cyn iddo gael ei anrhydeddu.

Fe gafodd seremoni'r Gadair Ddu ei chynnal oriau'n unig ar ôl i'r Eisteddfod anrhydeddu'r Is-gorporal Samuel Evans, Rhosllannerchrugog, ar lwyfan y Pafiliwn.

Ganrif yn ddiweddarach mae swyddogion yr Eisteddfod yn awyddus i glywed gan deuluoedd Côr Meibion yr 17eg Bataliwn.

Dywedodd llefarydd: "Byddai amryw o'r dynion wedi'u recriwtio yn ardal Blaenau Ffestiniog, Wrecsam a Llandudno, ac rydym yn hyderus bod gan nifer ohonynt deuluoedd sy'n dal i fyw yn lleol ar draws gogledd Cymru.

"Y bwriad yw cyhoeddi mwy am y côr yn agosach at yr Eisteddfod, ac i gasglu enwau'r aelodau er mwyn iddyn nhw gael eu cofio yn yr Eisteddfod ym Môn o 4-12 Awst."

Dylai unrhyw un a gwybodaeth gysylltu â'r Eisteddodd ar 0845 4090 400.