Angen rhyddhau 'ffeiliau perthnasol' Meibion Glyndŵr
- Cyhoeddwyd
Chwarter canrif ers yr ymosodiad diwethaf honedig gan Meibion Glyndŵr mae cynghorydd sir o Wynedd wedi galw ar Heddlu'r Gogledd i ryddhau y 'ffeiliau perthnasol' ar yr ymgyrch losgi er mwyn 'cau pen y mwdwl' ar gyfnod cythryblus yn hanes Cymru.
Roedd Alwyn Gruffydd yn ohebydd i'r BBC yn ystod y cyfnod hwn. Ers hynny mae wedi cyhoeddi llyfr o'r enw 'Mae Rhywun yn Gwybod' ar hanes yr ymgyrch.
Yn ystod yr ymgyrch, a wnaeth bara dros 12 mlynedd o 1979 i 1992, roedd yna 228 o ymosodiadau yng ngogledd a chanolbarth Cymru.
Roedd yr achosion cyntaf yn Nefyn yng Ngwynedd a Sir Benfro.
Yn 1993 fe gafwyd Siôn Aubrey Roberts yn euog o gynllwynio i achosi ffrwydradau ac o anfon deunydd ffrwydrol trwy'r post. Fe'i carcharwyd am ddeuddeg mlynedd. Nid oes neb arall wedi'i erlyn.
Fe ddywedodd cynghorydd Tremadog, Alwyn Gruffydd wrth raglen y Post Cyntaf: "Mae'n chwarter canrif ers yr ymosodiad olaf gan Meibion Glyndŵr - dwi'n meddwl bod hi'n hen bryd cau pen y mwdwl ar y peth.
"Yr unig ffordd o wneud hynny yw bod yr heddlu neu yr awdurdodau yn dweud na fyddant yn cyhuddo unrhyw un arall o fod yn rhan o'r ymgyrch. Rhaid hefyd rhyddhau y ffeiliau perthnasol i'r cyhoedd fel bod modd rhoi terfyn ar bethau a chyhoeddi fersiwn derfynol ar beth ddigwyddodd."
Roedd Meibion Glyndŵr yn grŵp o losgwyr anhysbys a oedd yn ymateb i'r broblem o ddiffyg tai fforddiadwy yng Nghymru. Tai haf yn berchen i Saeson oedd y rhan fwyaf o'r tai a dargedwyd.
Ymhlith targedau eraill roedd swyddfeydd arwerthwyr tai, iardiau cychod, swyddfeydd gwleidyddion a charafannau.
Fe wnaeth Mr Gruffydd ei sylwadau yn ystod cyfweliad i gofnodi pen blwydd Radio Cymru yn ddeugain oed.
Yn 2004 fe ail-agorodd Heddlu'r Gogledd yr ymchwiliad i'r ymgyrch losgi tai haf.
Wrth ymateb i sylwadau'r Cynghorydd Gruffydd, dywedodd llefarydd fod Heddlu'r Gogledd yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i "ddod atynt i ddweud be maent yn ei wybod. Dyw ymchwiliadau heb eu datrys byth yn cau a maent yn cael eu hadolygu'n gyson.
"Mae adolygiad yn rhoi cyfle i ailymweld ag ymchwiliad ac i ganfod a oes tystiolaeth fforensig newydd a all ychwanegu rhywbeth at yr ymchwiliad.
Ond yn ôl Alwyn Gruffydd rhaid cau'r bennod hon unwaith ac am byth.