Toriadau gwasanaethau ieuenctid yn 'diystyru' pobl ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae pobl ifanc yn cael eu "diystyru" oherwydd toriadau i gyllidebau gwasanaethau ieuenctid, yn ôl undeb.
Mae tua 100 o ganolfannau ieuenctid wedi cau yng Nghymru yn y pedair blynedd diwethaf, gyda 360 o swyddi wedi'u colli.
Mae undeb Unsain wedi galw ar gynghorau i ddarparu gwasanaeth sylfaenol fel isafswm.
Ond dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) bod y ffaith nad oes ffordd i fesur llwyddiant gwasanaethau o'r fath yn golygu ei fod yn bwnc cymhleth i awdurdodau.
O £23m i £19.3m
Mae gwariant ar waith ieuenctid yng Nghymru wedi gostwng o £23m yn 2013 i £19.3m yn y flwyddyn ariannol bresennol.
Mae nifer y gweithwyr llawn amser yn y sector wedi gostwng hefyd o 803 i 655, tra bo'r nifer o blant sy'n rhan o gynlluniau wedi gostwng o 102,700 i 93,400.
Ledled Cymru, 23% o'r plant sy'n gymwys i fod yn rhan o gynllun ieuenctid sy'n eu mynychu.
Mae Unsain wedi galw am ariannu teg a chynnwys pobl ifanc mewn penderfyniadau am y maes yn y dyfodol.
Dywedodd pennaeth llywodraeth leol yr undeb yng Nghymru, Dominic MacAskill: "Mewn cyfnod allweddol o'u bywydau, mae pobl ifanc angen y gefnogaeth y gall gweithwyr iechyd cymwys ei ddarparu."
Ychwanegodd bod toriadau'n "diystyru potensial cymaint o bobl ifanc yng Nghymru", a galwodd am wasanaeth sylfaenol fel isafswm ar draws pob cyngor.
'Anodd mesur llwyddiant'
Dywedodd Tim Opie o CLlLC bod diffyg ffordd o fesur llwyddiant cynlluniau ieuenctid, ac awgrymodd mai dyma'r rheswm pam fod y cyllid wedi gostwng.
Dyw canlyniadau'r gwaith ddim yn dwyn ffrwyth am flynyddoedd, meddai, felly nid yw'n flaenoriaeth i gynghorau, sydd eisoes yn ceisio arbed arian.
"Allwch chi fyth fod yn siŵr os mai'r gwaith ieuenctid neu rywbeth arall sydd wedi newid bywydau pobl," meddai.
"Mae'n anodd iawn cysylltu'r ymyriad gyda'r canlyniad."
Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar awdurdodau lleol i fod yn "wreiddiol" gyda'u polisïau ieuenctid, gan ychwanegu eu bod yn bwriadu trafod creu polisïau cenedlaethol yn y maes.