Llefarydd Llafur ar Gymru yn galw am gefnogaeth i Corbyn
- Cyhoeddwyd
Dylai'r blaid Lafur fod yn cefnogi Jeremy Corbyn mewn unrhyw ffordd posib, meddai llefarydd newydd y blaid ar Gymru.
Dywedodd Ms Rees ei bod yn gobeithio na fyddai chweched person yn cael ei benodi cyn 2020.
Roedd hi'n siarad gyda BBC Cymru am y tro cyntaf ers iddi gael ei phenodi ddydd Iau wedi i'w rhagflaenydd Jo Stevens ymddiswyddo.
Fe wnaeth Ms Stevens ymddiswyddo o achos fod y blaid wedi mynnu fod ASau'n pleidleisio o blaid y mesur i danio Erthygl 50 - sef y cam cyntaf ym mhroses Brexit o adael yr Undeb Ewropeaidd.
Undod
Dywedodd Ms Rees: "Fo yw ein harweinydd. Mae wedi ei ethol yn ddemocrataidd.
"Fe ddylie ni fod yn gefn i'n arweinydd ac yn ei gefnogi mewn unrhyw ffordd posib, achos dyna yw strwythur y blaid Lafur."
Ychwanegodd na fyddai'n chwarae rhan mewn unrhyw ymgais i gael gwared â Mr Corbyn.
"Byddaf yn gweithio i gael undod o fewn y blaid. Ac rydym wedi bod yn unedig ers yr haf," meddai.