£27m i feddygon teulu ond disgwyl gwasanaeth ehangach

  • Cyhoeddwyd
Surgery

Bydd meddygon teulu yng Nghymru yn cael £27m ychwanegol yn y flwyddyn ariannol nesaf, yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

Ond yn rhan o'r cytundeb newydd, mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod disgwyl i feddygfeydd gynnig amrywiaeth o wasanaethau ychwanegol.

Yn rhan o'r cytundeb bydd meddygon yn cael codiad cyflog o 1% ac 1.4% ychwanegol i dalu costau.

Hefyd, bydd arian ychwanegol i dalu am amser i ffwrdd o'r gwaith pan mae salwch neu i rieni, a chyfraniad tuag at yswiriant personol meddygon teulu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y cynnydd, cyfanswm o 2.7%, yn uwch na blynyddoedd blaenorol.

Mwy o wasanaethau

Ond mae disgwyl i feddygfeydd ddefnyddio'r arian ychwanegol i gynnal gwasanaethau'n cynnwys:

  • Gwasanaeth ehangach i bobl mewn cartrefi gofal dros Gymru;

  • Gwasanaeth ehangach i drin diabetes;

  • Gwella'r monitro o gleifion sy'n cael warfarin - cyffur sy'n atal ceulad gwaed.

Yn ôl cynrychiolwyr meddygon teulu, mae'r cytundeb byrdymor yn galluogi i drafodaethau am newidiadau ehangach i gytundebau barhau.

Gobaith cynrychiolwyr yw gwella mynediad i wasanaethau a lleihau biwrocratiaeth. Maen nhw'n ychwanegu bod meddygon teulu yn dal i wynebu "pwysau aruthrol" wrth ddelio gyda phoblogaeth sy'n heneiddio.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vaughan Gething bod y cytundeb yn rhoi "sail gadarn" i feddygon barhau i gynnal gwasanaethau

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: "Dwi'n hyderus mai'r dull hwn o weithio mewn partneriaeth yw'r ffordd orau ymlaen wrth inni barhau i drawsnewid gofal sylfaenol yng Nghymru.

"Mae'n rhoi sail gadarn i feddygon teulu allu parhau i ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel mewn ffordd gynaliadwy."

Ychwanegodd Dr Charlotte Jones, Cadeirydd Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, ei bod yn "sicr y bydd gweithredu fel hyn yn arwain at y canlyniadau gorau i'r meddygon teulu a'r cleifion".

"Mae'r newidiadau a gyhoeddwyd heddiw yn rhan o waith mwy hirdymor i adolygu'r cytundeb cyfan a sicrhau ei fod yn addas at y dyfodol."