Lladron yn 'targedu defnyddwyr apiau seiclo'

  • Cyhoeddwyd
ApiauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae lladron beiciau yn targedu defnyddwyr apiau seiclo poblogaidd meddai Heddlu Gogledd Cymru.

Mae'r apiau'n cael eu defnyddio ar wefannau cymdeithasol i ddangos pa lwybr y mae seiclwr wedi bod arno'n ddiweddar, ac fe all y mapiau ddatgelu lle mae'r seiclwr yn byw.

Dywed yr heddlu fod 12 beic gwerthfawr wedi cael eu dwyn o siediau yn Abergele yn ystod y pythefnos diwethaf.

Mae swyddogion wedi rhybuddio seiclwyr i sicrhau nad yw'r apiau'n datgelu cyfeiriad eu cartrefi, ac i gryfhau eu lefelau preifatrwydd ar yr apiau.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101.