Gwerthu tocynnau Gig y Pafiliwn yr Eisteddfod mewn oriau

  • Cyhoeddwyd
gwerthu allanFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau bod tocynnau ar gyfer Gig y Pafiliwn eleni wedi eu gwerthu o fewn ychydig oriau ddydd Llun.

Yn dilyn llwyddiant y noson y llynedd, gafodd ei chyflwyno gan Huw Stephens, fe fydd nifer o leisiau amlwg y Sîn Roc Gymraeg yn dychwelyd ar gyfer perfformiadau arbennig i gyfeiliant y Welsh Pops Orchestra ar nos Iau'r brifwyl.

Yn perfformio eleni fydd Yws Gwynedd, Yr Eira, Alys Williams a'r band, a'r rapiwr Mr Phormula.

Aeth y tocynnau ar werth am 10:00 ddydd Llun, ac roedd bron i 1,500 wedi eu gwerthu cyn 17:00.

'Llwyddiant mawr'

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts: "Mae'r gwerthiant tocynnau ar y diwrnod cyntaf wedi bod yn ardderchog, ac mae Gig y Pafiliwn wedi llwyddo i werthu allan mewn ychydig oriau.

"Bu'r gig gyntaf i ni'i chynnal yn y Pafiliwn y llynedd yn llwyddiant mawr ac rydym wedi llwyddo i ddenu rhai o sêr mwya'r sîn atom eto eleni.

"Mae hon yn sicr o fod yn noson dda."

Dywedodd llefarydd ar ran y brifwyl mai dyma un o'r cyngherddau cyntaf i werthu allan yn hanes yr Eisteddfod, ac mae'r digwyddiadau eraill yn prysur lenwi.

"Mae bron i hanner tocynnau ar gyfer noson Tudur Owen yn y Pafiliwn wedi gwerthu allan hefyd." Ychwanegodd y llefarydd.

Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ger pentref Bodedern yn Ynys Môn rhwng 4-10 Awst.