Gwelliannau mewn rhannau o'r Gwasanaeth Iechyd

  • Cyhoeddwyd
Staff ysbyty mewn cynteddFfynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, roedd gwelliannau mewn rhai agweddau o berfformiad y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ym misoedd cynta'r flwyddyn.

Roedd llai o ddisgwyl mewn adrannau brys ac ar gyfer cleifion sy'n aros am driniaethau wedi'u trefnu o flaen llaw, profion diagnostig a thriniaeth canser.

Hefyd fe gofnodwyd perfformiad gorau'r gwasanaeth ambiwlans ers i dargedau newydd ddod i rym ym mis Hydref 2015.

Mae perfformiad fel arfer yn gwella yn ystod y gwanwyn wedi pwysau'r gaeaf.

Ond mae'r gwasanaeth yn dal i fethu â chyflawni'r rhan fwyaf o dargedau allweddol.

Ystadegau allweddol

  • Ambiwlans: 80.5% o alwadau brys 'coch' - lle mae perygl i fywyd - wedi'u hateb o fewn wyth munud ym mis Ebrill, o'i gymharu â 77.9% ym mis Mawrth. Y targed yw 65%.

  • Brys: 82.8% o gleifion wedi aros llai na phedair awr mewn unedau gofal brys ym mis Ebrill, o'i gyhmharu â 80.9% ym mis Mawrth. Ond y targed o 95% erioed wedi'i gyrraedd.

  • Canser: 89.3% o gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser wedi cychwyn triniaeth o fewn 62 niwrnod ym mis Mawth - cynnydd o 2.5% ers Chwefror. Ond yn parhau'n llai na'r targed o 95%.

  • Profion diagnostig: Nifer y cleifion sy'n aros dros wyth wythnos am brofion diagnostig wedi cwympo o 6,625 ym mis Chwefror i 4,741 ym mis Mawrth.

  • Triniaethau wedi'u trefnu o flaen llaw: 12,345 o gleifion wedi bod yn aros dros 36 wythnos am driniaeth ysbyty wedi llythyr meddyg ym mis Mawrth - 7,000 yn llai na mis Chwefror. Ond y targed yw bod neb yn aros cyhyd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething bod yr ystadegau'n "gadarnhaol".

"Rydyn ni'n gweld gwelliant ar draws ystod o fesurau perfformiad gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru. Mae hyn yn digwydd wrth i fwy a mwy o bobl geisio cael triniaethau drwy'r gwasanaeth iechyd sy'n cael eu cynnwys gan y mesurau hyn."