Cynghrair Pencampwyr: 'Cyfle euraid i Gaerdydd a Chymru'
- Cyhoeddwyd
Gyda llygaid y byd ar rai o bêl-droedwyr gorau Ewrop yng Nghaerdydd dros y dyddiau nesa', mae arbenigwyr ym maes twristiaeth yn dweud bod hwn yn gyfle euraid i farchnata nid yn unig y brifddinas, ond Cymru gyfan.
Mae trefnwyr rowndiau terfynol Cynghrair y Pencampwyr yn darogan bydd y digwyddiad werth £45m i economi Caerdydd, ond faint o werth yw digwyddiadau mawr fel hyn i'r diwydiant ymwelwyr?
Mae cyn-Brif Weithredwr Croeso Cymru, Jonathan Jones, sydd bellach yn ymgynghorydd twristiaeth annibynnol, yn dweud bod digwyddiadau'r gorffennol wedi profi eu gwerth.
"Ers i ni gael Cwpan Rygbi'r Byd gyntaf 'nôl yn y 90au, a wedyn Cwpan Ryder, NATO, y Gemau Olympaidd, y gemau Cwpan FA pan oedden nhw'n adeiladu Wembley... mae pob un o'r rheiny ... ar ôl y digwyddiad, maen nhw wedi gwella delwedd Cymru.
"Mae pobl newydd yn dod mewn, ac yn gweld bod ni'n gallu cynnal digwyddiadau mawr, bod 'na groeso a bod popeth yn gweithio'n iawn.
"Nawr y peryg yw, wrth gwrs, os nad yw pethe'n gweithio'n iawn.. os cewch chi dagfeydd yn yr orsaf, ar yr M4, yn y maes awyr...
"Os nad oes croeso, os nad oes gwasanaeth da yn y gwestai a'r llefydd bwyta, mae pobl yn mynd i ffwrdd ac yn dweud dyn ni byth yn mynd i Gymru eto."
Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, mae'r diwydiant ymwelwyr werth dros £5bn y flwyddyn i'r economi - ceisio cynyddu ar hynny fydd y nod.
Yn ôl Kelly Young, sy'n ddarlithydd rheolaeth twristiaeth gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, mae angen i'r diwydiant fod yn barod am dwf pellach.
Dywedodd: "Mae pethe fel y Lonely Planet nawr yn enwi Cymru fel un o'r top 10 o lefydd i ymweld a nhw - ni jyst tu ôl i Peru, a Seland Newydd a Portiwgal.
"Felly mae enw Cymru yn dod yn fwy ac yn fwy o ran rhywle neis a da i ymweld.
"Un o'r problemau mawr sydd gyda ni yng Nghymru yw'r ffaith fod safon ein gwestai a llefydd i aros yn uchel iawn, yr unig beth yw does dim digon ohonyn nhw."
Mae'r trefnwyr yng Nghaerdydd yn pwysleisio mai dyma'r tro cyntaf i UEFA ddefnyddio dwy iaith i hybu Cynghrair y Pencampwyr, gyda 'Caerdydd', yn ogystal â 'Cardiff', yn cael ei ddefnyddio mewn deunydd marchnata.
"Y mwya' ein bod ni'n defnyddio'r iaith Gymraeg yn y pethe mawr ma," meddai Jonathan Jones, "mwya mae pobl o wledydd eraill yn gallu gweld ein bod ni'n hollol ddwyieithog a bod hwnna ddim yn rhoi problem i unrhyw un... Fel dyw e ddim yn rhoi problem i bobl yng Ngwlad Belg neu'r Swistir, neu unrhyw wlad arall lle maen nhw'n ddwyieithog neu'n aml ieithog."
"Mae lan i ni sut r'yn ni'n marchnata hwn, sut r'yn ni'n trefnu fe, sut amser mae'r bobl yn mynd i'w gael.
"Os allwn ni gael hwnna i gyd yn iawn, yn sicr mae'n mynd i fod o fudd i Gaerdydd ac i Gymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2017
- Cyhoeddwyd30 Mai 2017