89,943 yn ymweld ag Eisteddfod yr Urdd 2017

  • Cyhoeddwyd
Mr Urdd a Sioned Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dros 15,000 yn cystadlu yn ystod yr wythnos, gyda dros 269 o staff a gwirfoddolwyr yn sicrhau rhediad llyfn yr ŵyl.

Ar ddiwrnod olaf Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elai, ym Mhencoed, cyhoeddodd y trefnwyr fod 89,943 wedi ymweld â'r ŵyl eleni.

Roedd dros 15,000 yn cystadlu yn ystod yr wythnos, gyda dros 269 o staff a gwirfoddolwyr yn sicrhau rhediad llyfn yr ŵyl.

Roedd teilyngdod yn yr holl brif seremonïau, gyda Ryan Howells yn ennill y Fedal Gyfansoddi, Rebecca Jones yn ennill Medal y Dysgwyr, Mared Llywelyn yn ennill y Fedal Ddrama, Gwynfor Dafydd y Gadair a Elen Gwenllian y Goron.

Yn ôl Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, "Rydym wedi cael Eisteddfod wych ym Mhencoed, gyda phopeth wedi mynd yn hwylus.

"Roedd safon y cystadlu yn uchel iawn - yn y pafiliwn a thu hwnt, ac rydym yn hynod falch o allu cynnig y platfform hwn i blant a phobl ifanc Cymru ddangos eu doniau mewn cynifer o feysydd gwahanol.

"Hoffwn ddiolch i'r noddwyr am eu cefnogaeth i'n gŵyl ac i'r byddin o staff a gwirfoddolwyr am eu gwaith di-flino yn ystod yr wythnos."

'Wythnos fythgofiadwy'

Un o'r gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn hynod brysur yn ystod yr wythnos yw Tegwen Ellis, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol. Dywedodd: "Mae hi wedi bod yn wythnos fythgofiadwy ac mae cyfraniad y bobl leol dros y ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn anhygoel.

"Hoffwn ddiolch i staff yr Urdd am eu cefnogaeth ac i'r holl wirfoddolwyr, ymwelwyr, cystadleuwyr, beirniaid a hyfforddwyr ac athrawon am eu gwaith caled.

"Y cyfan sydd ar ôl i'w wneud nawr yw dymuno'n dda i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd pan fydd hi yn ymweld gyda Brycheiniog a Maesyfed yn 2018."

Cafodd 2,500 o dracfyrddau a 60 milltir o geblau eu defnyddio i adeiladu'r Maes a chymerodd bump wythnos i dîm o 150 o weithwyr gael y Maes yn barod - bydd yn cymryd 10 diwrnod i'w gymryd i lawr.