Ateb y Galw: Non Parry
- Cyhoeddwyd
Non Parry sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon, wedi iddi gael ei henwebu gan ei gŵr Iwan John yr wythnos diwethaf.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Gwylio Scooby Doo drwy ffenest, tu allan i'r tŷ.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Morten Harket o A-ha.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Snot yn hedfan allan o'n nhrwyn i tra'n canu unawd mewn cyngerdd pan o'n i tua 13.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Mae unrhywbeth (da neu ddrwg) yn 'neud i fi grio felly dwi'n crio pob dydd! Wil fy mab yn deud bod o'n ddiolchgar mod i'n dreifio fo i llefydd nath o ddoe. Dwi'n pathetic.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n flêr ofnadwy. Dwi'n gadael lot o rybish yn y car.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Trefdraeth. Mae o tua 10 munud o'n tŷ ni ac felly yna pob penwythnos bron iawn gyda'r plant. Traeth, pyb, peint, pop a crisps yn draddodiad pob p'nawn Sadwrn.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Aeth Iwan a fi i Florida ac Efrog Newydd ar ein mis mêl, a tra yn Efrog Newydd mynd i weld David Hasslehoff mewn sioe. Odd y ddau ohonon ni wedi meddwi braidd ac roedd y sioe mor ofnadwy o'dd o'n HILARIOUS. A wedyn nath Iwan pwsho fi i'r ffrynt i deud helo wrth yr Hoff wrth iddo adael y theatr. Odd raid ti fod yna rili, ond ar y pryd dwi'n cofio chwerthin LOT.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Byr, hamddenol (neu gair gwell am relaxed!), di-drefn.
Beth yw dy hoff lyfr?
Morgan a Magi Ann yn Prynu Ci (atgoffa fi o tŷ Nain).
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Greg Davies (y comedïwr). Sneb yn neud i fi chwerthin mwy na fo. A mae o'n edrych yn rili neis a normal.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Moana. Ciwt a doniol iawn. A neis gweld bach o haul.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Bwyta lot.
Dy hoff albwm?
The 1975 gan The 1975
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu phwdin, a be' fyddai'r dewis?
Pwdin; Crème brûlée... neu unrhywbeth efo cwstard.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Beyoncé (ar ddiwrnod ffilmio fideo yn arbennig!)
Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Catrin Mara