Cofio'r llenor a'r 'cawr diwylliannol' Emyr Humphreys
- Cyhoeddwyd
Mae'r nofelydd, bardd ac awdur Emyr Humphreys wedi marw yn 101 oed.
Mae'n cael ei ystyried yn un o lenorion iaith Saesneg pwysicaf Cymru, ac fe enillodd lawer o wobrau ac anrhydeddau am ei waith.
Bu farw yng nghwmni ei deulu yn ei gartref yn Llanfairpwll.
Cafodd ei eni i rieni Cymraeg ym Mhrestatyn, ond doedden nhw ddim yn siarad yr iaith ar yr aelwyd ac felly ni ddysgodd yr iaith nes iddo fynd i'r ysgol yn Y Rhyl.
Dechreuodd gyfansoddi cerddi pan roedd yn dal yn yr ysgol, ac fe gyfrannodd hefyd i'r Welsh Nationalist, un o gyhoeddiadau Plaid Cymru.
Achos Ysgol Fomio Penyberth wnaeth sbarduno'i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth.
Astudiodd hanes a Chymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ond daeth yr Ail Ryfel Byd â'r cwrs i ben cyn iddo allu graddio.
Roedd eisoes wedi cofrestru fel gwrthwynebwr cydwybodol ac fe weithiodd ar ffermydd yn Sir Benfro a Chaernarfon, cyn hyfforddi fel gweithiwr cymorth a gwneud gwaith dyngarol mewn gwersylloedd ffoaduriaid yn Yr Aifft a'r Eidal.
Yn ystod y rhyfel, cyhoeddwyd rhai o'r gerddi yng nghylchgrawn The Spectator pan roedd Graham Greene yn olygydd llenyddol. Awgrymodd Greene y dylai ysgrifennu nofel ac yn 1946 cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, The Little Kingdom.
Wedi'r rhyfel fe weithiodd fel athro, ac enillodd wobr Somerset Maugham yn 1953 am y nofel Hear and Forgive.
Ymunodd â'r BBC yn 1955 gan gynhyrchu dramâu radio am ddegawd. Cyfieithodd nifer o ddramâu i'r Gymraeg ac fe weithiodd gydag actorion amlwg fel Richard Burton, Hugh Griffith, Siân Phillips a Peter O'Toole, a'r dramodwyr Wil Sam Jones a Saunders Lewis.
Roedd yn ddarlithydd drama wedi hynny yng Ngholeg y Brifysgol Bangor cyn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar ysgrifennu yn 1972.
Cyhoeddodd ei gyfrol olaf - casgliad o straeon byrion - i gyd-fynd â'i ymddeoliad a'i ben-blwydd yn 90.
Gwobrau ac anrhydeddau
Ei nofel fwyaf adnabyddus yw A Toy Epic (1958) a gafodd ei hysgrifennu yn y ddwy iaith, gan ennill Wobr Hawthornden.
Yn The Land of the Living - cyfres o saith nofel - mae'n olrhain hanes gwleidyddol a diwylliannol Cymru yn yr 20fed Ganrif.
Enillodd Wobr Llyfr Y Flwyddyn yng Nghymru, ym mlwyddyn gyntaf y gystadleuaeth yn 1992 am Bonds of Attachment, ac yn 1999 am The Gift of a Daughter.
Emyr Humphreys oedd y cyntaf i dderbyn Gwobr Siân Phillips, yn 2004, am ei gyfraniad i fyd radio a theledu Cymru.
Yn ogystal â'i nofelau a cherddi, ysgrifennodd ar gyfer y teledu, gan gydweithio'n aml gyda'i fab, y cynhyrchydd a chyfarwyddwr Sion Humphreys.
Fe gymrodd yr enw Emyr Trelawnyd wrth gael ei dderbyn i'r Orsedd, ar ôl y pentref ble y cafodd ei fagu wedi i'w dad ddod yn athro yno a helpu sefydlu Côr Meibion Trelawnyd.
Enillodd Fedal y Cymrodorion ac ar achlysur ei ben-blwydd yn 100 oed y llynedd fe sefydlodd PEN Cymru Wobr Emyr Humphreys i anrhydeddu "ysgrifennu herfeiddiol ac arloesol am Gymru".
'Un o'n cewri diwylliannol arwrol'
Yr Athro M. Wynn Thomas yw awdur y gyfrol sy'n cloriannu gwaith Emyr Humphreys yng nghyfres Llên y Llenor.
Dywedodd ddydd Mercher: "Roedd Emyr Humphreys yn gawr diwylliannol, yn nofelydd o fri cydwladol, ac yn 'ffigur anhepgor,' i ddyfynnu ei ddisgrifiad o'i arwr Saunders Lewis.
"Bu'n hynod gynhyrchiol am 70 o flynyddoedd, a gwnaeth gyfraniad unigryw mewn amryw o feysydd gwahanol, o fyd llen i fyd y ddrama a theledu, yn ogystal ag i'n hadnabyddiaeth ni o'n hanes."
Roedd y llenor, oedd yn ffrindiau â mawrion fel Saunders Lewis, R S. Thomas a Kate Roberts, meddai, hefyd "yn ymgyrchydd gwleidyddol diflino, yn wrthwynebydd cydwybodol, ac yn Gymro Ewropeaidd ymroddgar.
"Ac ar hyd ei yrfa pwysleisiodd fod sefyllfa fregus y Gymraeg yng Nghymru yn gwneud ein gwlad yn nodweddiadol o gyflwr pobloedd di-ri ar draws y byd a oedd dan fygythiad diwylliannol.
"Mae ei farwolaeth yn gant ac un yn dynodi diwedd cyflwr euraidd yn ein hanes o gewri diwylliannol arwrol a wnaeth ymroi'n gyfan gwbwl i'w gwasanaeth dros eu gwlad."
Roedd Emyr Humphreys yn ŵr gweddw wedi marwolaeth ei wraig, Elinor ac mae'n gadael pedwar o blant - Sion, Mair, Robin a Dewi.