Creu cynlluniau ar gyfer cefn gwlad ar ôl Brexit

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cefin Campbell yn sôn am yr heriau sydd yn wynebu cefn gwlad

Wrth i'r ansicrwydd ynglŷn â strategaeth Llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd ddominyddu trafodaethau ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd, mae un sir wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi creu gweithgor i baratoi strategaeth a chynlluniau penodol ar gyfer cynorthwyo cymunedau gwledig yr ardal wedi 2019.

Cyngor Sir Gaerfyrddin yw'r awdurdod cyntaf yng Nghymru i wneud hynny, ac fe ddaw hyn wrth iddyn nhw ddatgelu mwy am gynlluniau'r awdurdod ar gyfer Dinas Rhanbarth Abertawe, sydd yn werth £1.3bn i'r ardal.

Y cynghorydd Cefin Campbell fydd yn cadeirio'r gweithgor trawsbleidiol.

Yr wythnos hon ar faes y Sioe Fawr mae e wedi bod yn cynnal cyfres o gyfarfodydd gyda'r undebau amaeth, Menter a Busnes, y corff hyfforddi Lantra a Chyfoeth Naturiol Cymru i drafod eu gofynion nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Cadeirydd y gweithgor, Cefin Campbell, (chwith), yn cwrdd â chynrychiolwyr o sefydliadau a grwpiau diddordeb gwledig yn ystod y Sioe

Dywedodd: "Mae llawer o'r prosiectau ynghlwm â'r Fargen Ddinesig yn ne'r sir, yn yr ardaloedd trefol. Ond gydag ansicrwydd Brexit, ry ni'n gweld bod 'na le i ganolbwyntio ar ardaloedd cefn gwlad.

"Mae 'na ddiffyg gweledigaeth glir gan lywodraethau San Steffan a Bae Caerdydd o ran atebion ar gyfer cefn gwlad Cymru ôl Brexit, ac ry ni'n gweld cyfle fan hyn i fod yn flaengar."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Sioe yn cael ei chynnal yn flynyddol yn Llanelwedd

Bod yn 'greadigol'

"Ry ni ishe gweld beth sydd ei angen ar bobl er mwyn gallu sefydlu busnesau yng nghefn gwlad," meddai Cefin Campbell.

"Ma pethe fel gwella cysylltiad band llydan cyflym, problemau trafnidiaeth, cynaladwyedd yr iaith Gymraeg, a phethe eraill fel dyfodol ysgolion gwledig yn bwysig.

"Felly mae'r brîff yn eang iawn, a bydd rhaid i ni fod yn greadigol hefyd."

Nod y gweithgor ydy creu cyfres o gynlluniau fydd yn barod i gael eu hariannu gan yr arian fydd yn dod 'nôl i un ai Llywodraethau y DU neu Gymru o Frwsel.

Bydd y gweithgor yn cychwyn ar eu gwaith ym mis Medi.