Diffyg gwasanaethau arthritis yn achosi 'straen enfawr'
- Cyhoeddwyd
Mae diffyg gwasanaethau yng Nghymru ar gyfer plant sy'n dioddef o arthritis yn rhoi "straen enfawr" ar deuluoedd, yn ôl rhiant o Sir Benfro.
Mae Aimee, wyth oed o Lanismel yn Sir Benfro, yn dioddef o arthritis polyarticular ac yn gorfod teithio 230 milltir er mwyn gweld rhiwmatolegydd yng Nghaerdydd.
Bythefnos yn ôl fe wnaeth ACau gefnogi'r syniad bod angen gwella'r gwasanaethau sydd ar gael i blant yng Nghymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried y mater.
'Dim cyfleusterau'
Mae Aimee yn un o 600 o blant yng Nghymru sy'n dioddef o'r cyflwr, ac mae'n dioddef poen yn ei phengliniau, ei fferau, ei bysedd a'i phenelinoedd.
Ar hyn o bryd mae plant o dde a chanolbarth Cymru yn derbyn triniaeth gan riwmatolegydd oedolion yng Nghaerdydd yn rhan amser.
Mae nifer o gleifion yng ngogledd Cymru yn gorfod teithio dros y ffin i Ysbyty Alder Hay yn Lerpwl i dderbyn triniaeth.
Dywedodd tad Aimee, Darren Dworakowski: "Ar hyn o bryd does dim cyfleusterau yng Nghaerdydd.
"Rydym yn defnyddio adran ar gyfer cleifion allanol gyda rhiwmatolegydd oedolion, felly does gennym ni ddim byd yng Nghymru ar hyn o bryd, does dim o hyn yn digwydd yn llawn amser.
"Mae'n wael i fod yn onest."
Ychwanegodd bod gorfod teithio ar gyfer apwyntiadau yn "anghynaladwy" ac yn achosi "straen enfawr" ar y teulu yn ariannol, ac yn golygu bod plant eraill Mr Dworakowski yn gorfod cymryd amser i ffwrdd o'r ysgol.
Mae AC Plaid Cymru dros ranbarth Gogledd Cymru, Llyr Gruffydd wedi ymuno yn y galwadau am well ddarpariaeth o wasanaethau yng Nghymru.
Dywedodd bod gorfod teithio ar gyfer apwyntiadau yn "drafferthus" i blant.
"Yn amlwg mae'n effeithio ar addysg, datblygiad personol a phethau eraill," meddai.
"Felly mae'n rhaid datblygu gwasanaethau ein hunain yma yng Nghymru oherwydd dyma'r lleiaf mae ein plant yn ei haeddu.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi dweud y bydd yn ystyried y galwadau ar gyfer gwasanaeth newydd ar y cyd gyda'r camau positif rydym yn cymryd i gefnogi pobl sy'n dioddef o gyflyrau sy'n effeithio'r esgyrn, gan gymryd i ystyriaeth ail edrych ar ganlyniadau'r Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru sy'n digwydd ar hyn o bryd."