Tirlithriad Ystalyfera: Gofyn am nawdd gan y llywodraeth

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd cynghorydd Ystalyfera, Alun Llewelyn bod profiadau rhai trigolion yn "ddirdynnol"

Mae un o gynghorwyr Castell-Nedd Port Talbot wedi galw am help ariannol gan Lywodraeth Cymru yn sgil tirlithriadau yn yr ardal.

Mae'n bosib y bydd rhaid i ragor o bobl yng Nghwm Tawe adael eu tai oherwydd pryderon am dirlithriadau.

Yn ôl y Cynghorydd Alun Llewelyn mae'n sefyllfa anodd ac mae'r awdurdod lleol angen mwy o adnoddau.

Dywedodd ar raglen Post Cyntaf: "Does gan ddim un awdurdod lleol yr adnoddau ar ben eu hunain i ddatrys y fath sefyllfa.

"Pan chi'n ystyried hanes diwydiannol yr ardal a graddfa'r broblem mi fydd angen cymorth Llywodraeth Cymru.

"Dwi'n gwybod bod y cyngor wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru - ni'n disgwyl ymateb a gobeithio y bydd yr ymateb yna yn dod yn fuan. "

Mae BBC Cymru wedi cysylltu gyda Llywodraeth Cymru am ymateb.

Disgrifiad o’r llun,

Gallai'r rhes o 10 o dai ar Heol Cyfyng orfod cael ei ddymchwel

Bythefnos yn ôl cafodd 20 o bobl sy'n byw ar Heol Cyfyng yn Ystalyfera wybod bod rhaid gadael eu cartrefi yn syth ar ôl i bridd ddechrau llithro i lawr ochr y mynydd.

Mae arweinydd Cyngor Castell-Nedd Port Talbot, Rob Jones wedi dweud nad oes sicrwydd dros ddyfodol 150 o gartrefi yn ardal Ystalyfera hyd nes bydd canlyniadau archwiliad arbenigol yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae hefyd wedi cyfaddef nad oes unrhyw ddatrysiad peirianyddol yn bosibl i sefydlogi'r tir sydd tu ôl i'r 10 o dai sydd wedi eu heffeithio ac fe all y gost o ddymchwel y tai gostio miliynau o bunnoedd mewn iawndal i'r awdurdod.

'Perygl enbyd'

Yn ôl Mr Jones, ei flaenoriaeth ydy diogelu bywydau'r bobl leol.

"Galla i ddim pwysleisio digon - mae yna berygl enbyd i fywydau," meddai.

"Mae'r arbenigwyr wedi rhoi gwybod i ni fod 'na ddim datrysiad peirianyddol i'r sefyllfa. Mae gan yr holl ardal ddiffygion daearyddol.

"Mae'n etifeddiaeth o'r diwydiant glo... ac oherwydd ansefydlogrwydd y graig, mae'n achosi problem sydd ar ei gwaethaf yn ystod tywydd gwlyb."

Disgrifiad o’r llun,

Rob Jones yw arweinydd y cyngor ers yr etholiadau lleol ym mis Mai

Mae Mr Jones hefyd yn mynnu na fydd y cyngor yn oedi cyn defnyddio eu pwerau i brynu tai er mwyn diogelu bywydau.

"Os oes rhaid i ni fynd i lawr y llwybr o orchymyn prynu gorfodol, y neges yw: diogelwch y bobl sy'n byw yn yr ardal sy'n bwysig," meddai.

"Os oes rhaid i mi neud hynny, ac mae rhaid i mi gyfarwyddo'n swyddogion i wneud hynny, ni fyddai'n oedi o gwbl i sicrhau fy mod i'n gallu diogelu bywydau."

26 o dirlithriadau

Mae tirlithriad diweddaraf Ystalyfera yn rhan o system fwy o dirlithriadau yn yr ardal.

Mae 26 o dirlithriadau wedi'u cofnodi yn Ystalyfera, gyda'r cynharaf yn 1897 a'r un mwyaf diweddar ym mis Mehefin 2017.

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o dirlithriadau wedi digwydd yn yr ardal yn y gorffennol

Er bod natur ac amlder y digwyddiadau yn amrywio, mae cyswllt agos rhyngddynt a'r ddaeareg leol a hanes diwydiannol yr ardal.

Mae'r tirlithriadau hefyd yn aml yn gysylltiedig â glaw trwm dros gyfnodau hir.

Mae cynnydd yn nifer y tirlithriadau wedi bod yn ddiweddar, gyda phedwar digwyddiad ar wahân yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Yn fwy allweddol, mae'r digwyddiadau diweddaraf ym mis Chwefror a mis Mehefin eleni wedi digwydd mewn ardaloedd oedd yn cael eu hystyried yn "risg isel", gan effeithio ar nifer o dai ac eiddo preswyl yn uniongyrchol.