Crogi ar gam

  • Cyhoeddwyd
mattan

Mae'n un o'r achosion gwaethaf o gamweinyddu cyfiawnder welodd Cymru erioed.

Ym mis Mawrth 1952 ymosododd rhywun gyda chyllell ar Lily Volpert, perchennog siop yn Nhrebiwt, Caerdydd a'i llofruddio.

Yn fuan wedyn cafodd gŵr 28 oed, Mahmood Hussein Mattan, ei arestio a'i anfon i sefyll ei brawf.

Er iddo brotestio ei fod o'n ddi-euog, cafodd y llys o'n euog a Mattan oedd y dyn olaf i gael ei grogi yng ngharchar y brifddinas ar 3 Medi 1952.

35 mlynedd yn ddiweddarach, yn dilyn ymgyrchu di-flino gan ei deulu, penderfynodd llys nad oedd o'n euog wedi'r cwbl gan bod yna amheuon mawr am hygrededd y dystiolaeth yn ei erbyn.

Roedd Emrys Roberts yn garcharor ar y pryd am wrthod ymuno gyda'r fyddin, ac mae'n cofio'r diwrnod y cafodd Mattan ei grogi.

"Roedd e mewn carchar gwahanol wedi'r achos, ac yna 'naethon nhw ei drosglwyddo fe i Garchar Caerdydd lle roeddwn i, er mwyn cael ei grogi yno," meddai.

"Roedd dynion a menywod yn yr un carchar ar y pryd, ac roedd 'na lefydd iddyn nhw gael rhywfaint o ymarfer corff ar wahân yn y gerddi yno.

"Dwi'n cofio bod 'na berth rhwng y ddwy ardd, ac roedd rhan o'r berth wedi gwywo yn ofnadwy, ac o'n i ddim yn deall pam ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mahmood Mattan (ail o'r dde) yn Tiger Bay, Caerdydd, yn 1950

"Ond yna gwelais tri o fechgyn ifanc 18 oed - Somaliaid yn wreiddiol a oedd yno am niwed corfforol difrifol (GBH) - yn palu lan y darn yna o'r berth a rhoi quicklime i mewn, achos dyna ble roedden nhw am gladdu corff Mahmood Mattan.

"Ro'n i'n gallu gweld Mattan mewn cell yn sefyll yn y ffenest yn edrych ar y bechgyn ifanc gyda'r quicklime a'r twll lle roedden nhw am daflu ei gorff e. Roeddwn i'n meddwl bod hynny yn ddychrynllyd o greulon.

"Y diwrnod y crogwyd e aeth popeth yn ddistaw yn y carchar fel oedd rhywbeth ofnadwy am ddigwydd - ac wrth gwrs fe roedd hynny'n wir. Roedd e'n anarferol o dawel yno."

Amddiffyn gwan

Yn ôl yr hanes fe wnaeth ei wraig ddarganfod fod ei gŵr wedi ei grogi pan aeth hi i ymweld ag o yn y carchar a darllen neges ar y drws yn dweud ei fod wedi ei ddienyddio.

Doedd dim tystiolaeth DNA yn yr achos i gysylltu Mattan gyda llofruddiaeth Lily Volpert, a doedd ganddo ddim y tîm mwya' cefnogol i'w amddiffyn.

Yn ystod yr achos cafodd Mattan ei ddisgrifio gan ei fargyfreithiwr ei hun fel "semi-civilised savage".

Ffynhonnell y llun, Matt Buck
Disgrifiad o’r llun,

Carchar Caerdydd fel y mae heddiw, yng nghanol y ddinas

Mae Emrys Roberts hefyd yn dweud bod amheuaeth ynglŷn â'r dystiolaeth gafodd ei rhoi gan y llygad-dyst.

"Fe glywes i yn ddiweddarach bod y fenyw wedi mynd mewn i'r siop ble digwyddodd y llofruddiaeth, ac wedi gweld Mattan yn gadael tra oedd Lily Volpert dal yn fyw," meddai.

"Ond fe gafodd tystiolaeth y fenyw yma ei gwrthod gan ei bod hi dan ofal seiciatrydd - dim mewn ysbyty, ond yn cael rhyw ofal meddyliol.

"Y prif dyst i'r erlyniad oedd dyn a ddywedodd fod y ddynes wedi ei lladd pan adawodd Mattan y siop, ond roedd y tyst yma wedi cael ei gyhuddo o roi camdystiolaeth mewn achos yn Nociau Lerpwl."

Cyfiawnder o'r diwedd

Fe wnaeth achos Mahmood Mattan atgyfnerthu teimladau Emrys Roberts am y gosb eithaf: "Roeddwn i yn erbyn dienyddio cyn yr achos yma, ond fe wnaeth be' ddigwyddodd i Mahmood Mattan gadarnhau fy nghred i.

"Dwi'n credu bod yr achos wedi rhoi cysgod dros deulu Mattan am flynyddoedd, ac mae e wedi cael cryn effaith arnyn nhw."

Yn Chwefror 1998 penderfynodd y Llys Apel bod Mahmood Mattan yn ddi-euog ac wedi ei grogi ar gam. Fe ddaeth y barnwyr i'r casgliad nad oedd tystiolaeth y prif dyst yn yr achos yn ddibynadwy.

Hwn oedd yr achos cyntaf o'i fath i lys benderfynu bod gŵr a oedd eisioes wedi'i grogi yn ddi-euog.

Cyn hyn byddai unigolion ble roedd 'na amheuaeth am eu euogrwydd yn cael pardwn yn unig.

Cafodd gweddillion Mahmood Mattan eu codi o dir y carchar a'u hail-gladdu ym Mynwent Trelái yng ngorllewin Caerdydd.