Deiseb i wrthwynebu cynlluniau adeiladu ym Mae Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dros 7,000 o bobl wedi arwyddo deiseb ar-lein i wrthwynebu cynlluniau i ddatblygu Bae Caerdydd a fyddai'n gallu arwain at newidiadau sylweddol.
Mae'r ddeiseb yn gwrthwynebu cynlluniau perchnogion y tir, Associated British Port, ar gyfer yr ardal o amgylch yr Eglwys Norwyaidd yn y Bae ac yn un ymhlith nifer arall.
Petai'r cynlluniau yn cael eu cymeradwyo mae 'na ofnau y byddai'r ardal yn newid cymaint, fel na fyddai modd gweld yr Eglwys ac y byddai llai o bobl yn ymweld â'r lle.
Mae cwmni ABP yn dweud eu bod nhw wedi gwrando ar lais y cyhoedd ac wedi addasu eu cynlluniau.
Fel rhan o'r cynlluniau, fe fyddai rhywfaint o'r tir gwyrdd yn diflannu, a pharc chwarae newydd yn cael ei adeiladu yn lle yr un presennol.
Fe fyddai coed ac adeiladau'n yn cael eu dymchwel er mwyn codi siopau, gwesty a fflatiau moethus, dros 200 o gartrefi ar lan y dŵr.
Mae ABP wedi dweud y bydd ardal ddiwylliannol yn cael ei chreu er mwyn denu ymwelwyr hefyd.
Newid er gwaeth?
Ond poeni y bydd y bae yn newid er gwaeth mae Howard Williams sydd yn byw yn y bae.
"Un o'r pethau canolog ydi rhan o'r cynllun am gael gwared ar fan gwyrdd, sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio fel lle chwarae i blant a lle i bobl eistedd allan.
"A naill ochr i'r Eglwys rhoi rhodfa o siopau. Fe fydd yr olygfa at yr Eglwys yn diflannu yn llwyr.
"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig cadw'r hyn sydd yma fel y mae."
Mae'n teimlo bod yr Eglwys yn adeilad o bwys yn y Bae ac y byddai traffig ychwanegol i'r fflatiau yn amharu ar yr ardal.
"Ar hyn o bryd mae'n eitha tawel a phobl yn gallu cerdded yn hwyliog, ond gallai tua 1,000 o bobl fod yn byw yn y tŵr uchel newydd yma," meddai.
"Mae'n lle prydferth ar hyn o bryd a nifer yn cerdded a mwynhau'r ardal."
'Diffyg parch'
Mae'n pryderu hefyd am fwy o fusnesau yn dod i'r Bae. Dywedodd bod nifer o siopau yn ardal Cei'r Forforwyn yn cael trafferthion ac nad ydyn nhw fel busnesau yn hapus a'r datblygiad diweddara.
Yn ôl yr Aelod Seneddol Lleol, Stephen Doughty, mae'r cynlluniau yn mynd i "ddifetha" yr ardal.
Mae'r datblygwyr ABP wedi dweud wrth BBC Cymru bod y datblygiad yn mynd i wella'r ardal ac y byddai'r cartrefi mewn adeilad eiconig.
"Mae llais y bobl leol wedi bod yn ganolog i'n gweledigaeth ar gyfer Cei Dolffin.
Wedi addasu
"Rydan ni wedi gwrando yn ofalus i'r ymateb yn ystod yr ymgynghoriad ac wedi gwneud newidiadau o ganlyniad.
"Er enghraifft, rydan ni wedi cynyddu maint y parc newydd a'r ardal chwarae, gan leihau nifer yr adeiladau masnachol a gwneud y safle gwyrdd newydd yn atyniad trawiadol o Gei Dolffin ar gyfer pawb o bob oed drwy'r flwyddyn."
Maen nhw'n dweud y byddan nhw'n parhau i wrando ar farn y cyhoedd yn y misoedd i ddod.
Yn ôl Cyngor Caerdydd, mae'r cais ar gyfer Cei'r Dolffin wedi ei gyflwyno ac y byddai felly'n anaddas gwneud sylw ar hyn o bryd.